Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 13 Mehefin 2018.
Wel, mae'n wych pan fydd plant yn cael yr ysgolion newydd hynny, ond mae yna lawer gormod o blant sy'n cael eu haddysgu mewn adeiladau annigonol a pheryglus. Canfu arolwg barn diweddar ledled y DU fod 90 y cant o athrawon yn credu bod ysgolion sydd wedi'u hadeiladu a'u cynllunio'n dda yn gwella canlyniadau addysgol. Felly, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein plant yn cael eu haddysgu mewn adeiladau nad ydynt yn niweidio eu haddysg neu eu hiechyd, waeth beth fo'r cyfyngiadau ar y gyllideb.