7. Dadl Plaid Cymru: Ariannu Ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:48, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu eich cyfeiriad at y Rhondda, ac yn wir at Rondda Cynon Taf, ond bydd eu rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn golygu, erbyn 2020, y byddant wedi buddsoddi £0.5 biliwn mewn ysgolion newydd. Dyma'r rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf aruthrol ers cenedlaethau. Does bosib nad ydych yn croesawu hynny'n fawr iawn fel rhywbeth sy'n gweddnewid y system addysg, yn enwedig yn Rhondda Cynon Taf.