Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 13 Mehefin 2018.
Ar wariant, sylweddolaf fod yr Aelod yn newydd i grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ond heb fod mor bell yn ôl â hynny, roedd gan y Ceidwadwyr addewid i glustnodi gwariant iechyd yng Nghymru. Y canlyniad fyddai toriad enfawr yn y gwariant ar addysg. Felly, mae cryn dipyn o wyneb gan yr Aelod yn pregethu wrthym ynglŷn â lefelau gwariant ar iechyd a ninnau wedi ei amddiffyn ac wedi ei gynyddu.