Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r sylwadau hynny ar agwedd rheilffordd y metro, ond mae'n bwysig nodi, bod y prosiect metro, o'r dechrau, wedi ei hyrwyddo fel ateb trafnidiaeth integredig. Mae daearyddiaeth y Cymoedd yn golygu mai ein cymunedau tlotaf yn aml sydd bellaf oddi wrth y cysylltiadau trên ar lawr y dyffryn. Felly, er mwyn iddyn nhw elwa ar well mynediad at y farchnad swyddi, mae'n hanfodol eu bod nhw'n cael eu gwasanaethu gan gysylltiadau bws cryf sy'n bwydo i mewn i'r gwasanaethau trên hynny. Felly, Prif Weinidog, pa sicrwydd all Llywodraeth Cymru ei roi bod y cysylltiadau bws hynny yn parhau i fod yn ganolog i weledigaeth y metro?