Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 19 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 19 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae fy merch yn teithio i Gaerdydd ar ddydd Llun a dydd Mawrth. Mae hi'n rhywun sy'n fy lobïo i'n gyson ar y mater hwn. Mae hi'n gweld y trenau gorlawn. Mae hi'n ymuno â'r trên ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond, wrth gwrs, gan ei fod yn aros ym Mhencoed a Llanharan, ac yna ym Mhont-y-clun, mae'n gweld y gorlenwi sy'n digwydd yno gyda thrên dau gerbyd yn gynnar yn y bore. Cofiwch, wrth gwrs, bod y fasnachfraint ddiwethaf wedi cael ei chytuno ar y sail na fyddai unrhyw gynnydd i niferoedd y teithwyr o gwbl. Roedd hwnnw'n benderfyniad anodd ei ddeall ar y pryd. Nid dyna yr ydym ni wedi ei wneud y tro hwn. Felly, mae'n golygu edrych ar wasanaethau amlach i wasanaethu ei etholwyr. Bydd yn golygu, mewn amser, hefyd, wrth gwrs, edrych ar hen reilffordd y gwaith golosg hyd at Beddau i weld a ellir defnyddio honno—rheilffordd ysgafn mae'n debyg—i gysylltu yn ôl â'r brif reilffordd i ddarparu gwasanaeth i bobl yn y gorsafoedd o orllewin Tonysguboriau, mae'n debyg, ymlaen ac i fyny hyd at Beddau.