Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 19 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:59, 19 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rydym ni eisoes yn gweld, o'r ystadegau poblogaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf ac Aberdâr, sy'n bwysig iawn, bod cynnydd i'r boblogaeth o bobl sydd rhwng 30 a 40, gan fod rhai pobl yn adleoli i'r ardaloedd hynny i brynu tai maint teulu. Mae hyn yn arwain at gymysgedd gymdeithasol fwy o faint a mwy amrywiol, sydd ei hun yn adfywio ardaloedd fel Aberdâr. Ond un rhan hanfodol o hyn, i ailadeiladu ar y duedd hon, yw sicrhau bod y metro yn darparu trafnidiaeth ragorol, oherwydd nid yw llawer o bobl iau eisiau i'w bywydau gael eu rheoli gan y car a wynebu mannau tagfeydd.