– Senedd Cymru am 6:43 pm ar 19 Mehefin 2018.
Rwy'n symud i'r bleidlais gyntaf ac mae honno ar y ddadl ar Gyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl ar ddwy flynedd ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, tri yn ymatal, 40 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.
A dyna ddiwedd ar ein trafodion am y dydd.