Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 19 Mehefin 2018.
Ni fyddai'r cynnydd yr ydym ni'n ei wneud yn bosibl heb gymorth tîm datblygu cenedlaethol ASD a arweinir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fe gyhoeddodd hwnnw ei adroddiad blynyddol heddiw hefyd, ac rwy'n deall bod datganiad yn tynnu sylw at hynny wedi'i ddosbarth i'r Aelodau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'r tîm yn gweithio gyda rhanbarthau i ddatblygu'r gwasanaeth integredig ac i hybu ymgysylltu ac arfer da ledled Cymru. Mae gan y tîm swyddogaeth hirsefydlog wrth godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, cyhoeddi amrywiaeth eang o adnoddau a gwybodaeth, sydd ar gael yn rhwydd ar eu gwefan ASDinfoWales.
Mae dim ond dau o lwyddiannau nodedig y tîm dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys ymestyn y rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth. Yn ychwanegol at y cynllun ar gyfer ysgolion cynradd, mae'r cynlluniau ar gyfer ysgolion uwchradd a'r blynyddoedd cynnar wedi'u lansio ac yn cael eu cyflwyno. Mae wyth deg o ysgolion wedi cwblhau'r rhaglen ar gyfer ysgolion cynradd erbyn hyn, a bron i 13,000 o blant yn dod yn uwcharwyr awtistiaeth. Mae'r ymgyrch Weli Di Fi? yn cael ei chyflawni hefyd, sydd â'r nod o wella'r ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn cymunedau lleol. Mae ffilm ac adnoddau'r ymgyrch yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â rhieni, gofalwyr a busnesau lleol ledled Cymru. Mae'r llwyddiannau hyd yn hyn yn cynnwys dyfarniadau a gyflawnwyd gan ganolfan siopa Merthyr Tudful a chanolfan siopa McArthurGlen ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a darparwyd hyfforddiant i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe.
Er ein bod yn gwneud cynnydd da, rydym ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud. Rydym ni'n parhau i edrych yn ofalus ar y materion y mae pobl awtistig yn dweud sydd fwyaf pwysig iddyn nhw er mwyn llywio camau gweithredu yn y dyfodol. Mae amseroedd aros am asesiad yn flaenoriaeth i lawer, ac ers 2015, rydym ni wedi buddsoddi £2 miliwn ychwanegol y flwyddyn yng ngwasanaethau niwroddatblygiadol plant, gan gyflwyno safon amser aros newydd o 26 wythnos o'r adeg atgyfeirio i'r apwyntiad asesu cyntaf, yr ydym ni erbyn hyn yn ei dreialu. Rydym ni eisiau gwneud rhagor o gynnydd, ac eleni, rydym ni'n edrych ar arfer da mewn rhai ardaloedd sydd eisoes yn cyflawni canlyniadau o ran lleihau amseroedd aros, gyda'r nod o ailadrodd y llwyddiant a'r arfer da hwnnw ledled Cymru.
Rwy'n deall mai'r mater pwysicaf i rieni plant awtistig yn aml yw sicrhau bod eu plant yn cael y cymorth addysgol cywir i'w helpu i gyflawni eu llawn botensial. Yn gynharach eleni, pasiwyd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Bydd honno'n paratoi'r ffordd ar gyfer gweddnewid y cymorth ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol hyd at 25 oed, gan greu fframwaith cyfreithiol unedig a fydd yn sicrhau bod dysgwyr a'u rhieni wrth wraidd y gwaith o gynllunio a diwallu eu hanghenion. Bydd y diwygiadau hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau yn y gweithlu i ddarparu cymorth effeithiol i ddysgwyr, a bydd hi'n haws cael gafael ar gymorth, gwybodaeth a chyngor arbenigol. Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno fesul cam o fis Medi 2020 ymlaen.
Yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rydym ni eisiau canolbwyntio ein holl ymdrechion ar y cynllun gweithredu strategol ar gyfer ASD, gan ymgorffori'r gwasanaeth integredig newydd, a chyflawni ein holl ymrwymiadau eraill. Rwyf wedi ystyried yn ofalus y galw am ddeddfwriaeth awtistiaeth a'r cynigion a geir ym Mil drafft Awtistiaeth (Cymru) a arweinir gan Aelodau'r Cynulliad. Mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau awtistiaeth yn y tymor hirach. Y gwahaniaeth rhyngom ni yw sut yr ydym ni'n ceisio cyflawni'r nodau hynny.
Rwy'n deall bod y posibilrwydd o fod â deddfwriaeth awtistiaeth sy'n benodol, yn ddeniadol i lawer. Mae'n amlwg mai bwriad y ddeddfwriaeth ddrafft, fel yr ydym ni wedi'i gweld, yw ategu'r dyletswyddau a'r disgwyliadau presennol ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau a chymorth i bobl awtistig. Mae hi eisoes yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, wrth gwrs, ddarparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar anghenion i bobl sydd angen gofal a chymorth—mae gan bobl awtistig a'u gofalwyr eisoes yr un hawl i gael gafael ar wasanaethau, fel pob dinesydd arall yng Nghymru.
Rydym ni eisoes yn cynnig rhai gwelliannau mawr eu hangen mewn gwasanaethau awtistiaeth. Dydw i ddim o'r farn y bydd deddfwriaeth gostus a dwys o ran adnoddau yn dod â manteision ychwanegol i bobl awtistig y tu hwnt i'r ymrwymiadau ymarferol i wella'r gwasanaethau yr ydym ni eisoes yn llwyr ymrwymedig iddynt. Yn fy marn i, byddai'n well buddsoddi amser ac arian i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau cadarn ac i sicrhau bod pwyslais ar welliant parhaus wrth i'r gwasanaethau newydd yr ydym ni'n eu rhoi ar waith ymwreiddio.
I wella gwasanaethau cymorth fwy fyth, rwy'n bwriadu tynnu sylw at anghenion pobl awtistig a'r gofyniad i ddiwallu'r anghenion hynny ar draws y gwasanaethau statudol drwy gyflwyno cod ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Mae hwn eisoes yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phobl awtistig. Bydd yn darparu eglurder ar y cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ddisgwyl ei dderbyn ac yn rhoi arweiniad ar sut y gall gwasanaethau addasu eu harferion i ddiwallu anghenion unigol pobl ag awtistiaeth. Byddwn ni'n ymgynghori ar ein cynlluniau yn ddiweddarach eleni, ac rwy'n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw i wneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar y materion sydd o wir bwys. Hefyd, byddwn yn diweddaru ein cynllun cyflawni ac yn adlewyrchu'r adborth a gawn ar ddarpariaeth gwasanaethau.
Nid yw'r galwadau am welliannau mewn gwasanaethau awtistiaeth yn cael eu hanwybyddu. Rydym ni'n cymryd camau i gyflawni'r canlyniadau gwell y mae pawb yn dymuno eu gweld. Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar draws y gwasanaethau, yn gwella'r gallu i gael asesiad a diagnosis ac yn darparu cymorth arbenigol ychwanegol ym mhob rhanbarth o Gymru. Byddwn ni'n parhau i wrando, a byddaf yn cadw meddwl agored am yr angen posibl am ddeddfwriaeth sy'n benodol i awtistiaeth yn y dyfodol, os daw'n glir drwy werthuso na ellir cyflwyno'r gwelliannau yr ydym ni i gyd yn dymuno eu gweld heb gymryd y llwybr hwn.