3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 19 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:06, 19 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad. Mae'n rhaid imi ddweud bod y swm enfawr o waith achos sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth y mae fy swyddfa i yn ei drafod a'r straeon personol o'r tu allan i'r gogledd yr ydym yn eu derbyn, yn awgrymu bod symiau enfawr o arian yn parhau i gael eu gwario, dim ond i'w  gael, yn anffodus, yn anghywir iawn, iawn ac weithiau'n drasig o anghywir. Sut ydych chi'n ymateb i bryderon a godwyd â mi bod un o'r pedair ardal gwasanaeth awtistiaeth integredig, neu IAS, lle lansiwyd y gwasanaeth yn dweud erbyn hyn eu bod eisiau bod yn wasanaeth diagnostig a cholli eu swyddogaeth gweithiwr cymorth? Mae ardal arall eisoes yn nodi, er gwaethaf derbyn £150,000 i £170,000 ychwanegol bob blwyddyn gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar ben eu cyllid IAS, na all ymdopi â nifer yr atgyfeiriadau y maen nhw'n eu cael, ac mae'r rhain yn atgyfeiriadau meddygol, nid rhai cymdeithasol, nid rhai sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd. Mynegwyd pryder wrthyf i y bydd y rhan fwyaf o'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau nad ydynt yn rhai IAS ar hyn o bryd yn diflannu neu'n ymddangos mewn argyfwng. Mae pryder am y diffyg niferoedd sy'n cael sylw gan yr IAS a'r diffyg gwasanaethau gan IAS i gario'r baich a drosglwyddir o gyrff trydydd sector sy'n colli'n gynyddol y cymorth lleol, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi eu cefnogi weithiau gan gannoedd o aelodau lleol o'r gymuned awtistiaeth.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at safon amser aros o 26 wythnos o'r adeg atgyfeirio i'r apwyntiad asesu cyntaf. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gymryd camau pan nad yw byrddau iechyd yn cyflawni'r targed hwnnw? A yw'r data amser aros yn cael ei ddiweddaru bob chwarter, ac os nad yw, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd?

Faint o bobl awtistig sydd wedi manteisio ar gyflogaeth o ganlyniad i'r rhaglen Ar y Blaen 2? A wnaeth Llywodraeth Cymru gyflawni achrediad yn y siarter 'bod yn fodlon gweithio gydag awtistiaeth' y llynedd, a sut y mae'n cynnal ei achrediad y flwyddyn hon a thu hwnt?

Faint o bobl sydd wedi cael gafael ar y gwasanaeth integredig ym mhob un o'r pedwar bwrdd iechyd lle lansiwyd y gwasanaeth, pa weithwyr proffesiynol a gafodd hyfforddiant ymwybyddiaeth, a beth yw'r meysydd blaenoriaeth, wrth inni edrych i'r dyfodol, ar hynny? Wrth gwrs, yn ogystal â hyfforddiant ymwybyddiaeth, sy'n cael ei arwain yn aml gan bobl nad ydynt yn awtistig, sy'n weithwyr proffesiynol yn y proffesiynau meddygol neu ofalu, sydd â phwyslais meddygol, pa gamau ydych chi'n eu cymryd neu a fyddwch chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â diffyg enfawr o ran derbyn awtistiaeth a hyfforddiant cydraddoldeb sy'n cael ei arwain gan hyfforddwyr sy'n bobl awtistig neu sy'n aelodau o'r gymuned awtistiaeth, sy'n canolbwyntio ar bobl awtistig a phobl nad ydynt yn awtistig yn gweithio gyda'i gilydd i oresgyn y rhwystrau sy'n anablu mewn cymdeithas?

A yw'r grŵp cynghori wedi cytuno ar gynllun gwaith? A fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r cynllun gwaith hwnnw os yw ar gael? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r argymhellion a geir yn y gwerthusiad annibynnol interim o'i strategaeth awtistiaeth a'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, a ganfu wendidau ac anghysondebau yn y gwasanaethau asesu a diagnostig i oedolion ag awtistiaeth ac yn y gwasanaethau cymorth ar gyfer oedolion a phlant ag awtistiaeth? Dywedodd:

Er mwyn llwyddo, fod angen dull cydgynhyrchiol sy'n cynnwys staff, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth ddylunio, gweithredu a gwerthuso yr IAS.

Ond mae yna bryderon am y dull o'r brig i lawr, y dywedwyd ei fod wedi rhwystro hyn.

Gan fod y gwasanaeth yn cael ei lansio yn y gogledd ar 27 Mehefin, fel y gwnaethoch chi ddweud, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd pan fyddwch chi'n clywed y straeon a godais yr wythnos diwethaf, fel y rhai o'r achos adolygiad barnwrol a setlwyd yn ddiweddar, cyn y gwrandawiad llawn, pan gytunodd cyngor Sir y Fflint i roi ymddiheuriad ffurfiol a rhoi dyfarniad iawndal ar ôl methu ag asesu a diwallu anghenion person ifanc awtistig ag anghenion ychwanegol, ac ystyried yn llawn anghenion gofalwr ei rhiant? Un achos yn unig yw hwnnw. Mae gen i wn i ddim faint o achosion tebyg—yn bennaf, ond nid yn unig yn Sir y Fflint—ar hyn o bryd. Sut y byddech chi'n ymateb i'r rhiant yn Sir y Fflint a anfonodd neges e-bost ataf ddoe ynghylch yr ymateb i'w chŵyn i CAMHS Sir y Fflint, yn dweud, 'Nid oes gan eich merch gyflwr gorbryder parhaus', a dim ond ymddiheuriad ydoedd am gyfathrebu gwael, ond roeddynt wedi gorfod mynd at seiciatrydd preifat oherwydd diffyg gofal, sydd wedi rhoi diagnosis bod y ferch ag achos difrifol o Anhwylder Straen Wedi Trawma, iselder a gorbryder? Mae hi'n dweud, 'Rydym ni'n falch nawr ein bod yn cael triniaeth ac argymhelliad am diwtora gartref, diolch i'n seiciatrydd preifat, ond dylai fy merch fod wedi cael hwn pan ofynnodd hi i CAMHS Sir y Fflint am gymorth chwe mis yn ôl.'

Rwyf i bron â gorffen, ond mater allweddol yw'r mater o rywedd. Rwyf wedi codi hyn droeon, ond rwy'n dal i dderbyn gwaith achos, bron bob dydd, lle dywedir wrth ferched sydd ag angen amlwg am ddiagnosis o awtistiaeth nad yw'n bosibl o gwbl iddyn nhw gael diagnosis o'r fath. Llythyr, er enghraifft, gan y bwrdd iechyd yn y fan yma:

'Mae'n anodd cyfuno'r disgrifiad o'r anawsterau a roddir gan rai teuluoedd â'r wybodaeth gan staff addysgu sy'n adrodd dim neu ychydig iawn o broblemau yn amgylchedd yr ysgol. Nid yw hyn yn nodweddiadol o blant sydd ag ASD', pan fo cyfoeth o ymchwil a thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol yn gwrthddweud hynny'n uniongyrchol, o ran y strategaethau cuddio ac ymdopi y mae llawer o blant, ac yn enwedig merched, yn eu mabwysiadu.

Rydych chi'n dweud bod galwadau am ddeddfwriaeth awtistiaeth—