Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 19 Mehefin 2018.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf y dylid dechrau integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches y diwrnod y byddan nhw'n cyrraedd. Mae'r dull hwn yn hanfodol ar gyfer sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i unigolion a chymunedau. Gwyddom fod cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd i ddyfodiaid ddysgu Cymraeg neu Saesneg—neu'r ddwy iaith, o gofio bod llawer o ffoaduriaid yn meddu ar sgiliau iaith rhagorol—ac rydym yn awyddus i'w cefnogi i wneud hyn. Byddai cefnogi cynlluniau gwirfoddoli ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cyfrannu at y gymdeithas Gymreig gan hefyd gefnogi dysgu iaith, adfer iechyd meddwl a gwella cyflogadwyedd unigolion. Rydym yn anelu at ddull cyfannol, lle mae'r camau yn y cynllun yn ategu ei gilydd i gyflawni newid cadarnhaol cyffredinol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Mae'n bwysig pwysleisio nad yw integreiddio pobl sy'n ceisio lloches yn golygu proses unochrog o roi. Daw ffoaduriaid â chyfoeth o brofiad ac ystod o sgiliau a galluoedd i Gymru. Mae'r GIG yng Nghymru wedi elwa ar Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Caiff hwn ei ddarparu gan Ddeoniaeth Cymru a Displaced People in Action, sy'n cefnogi meddygon sy'n ffoaduriaid i gael cydnabyddiaeth o'u cymwysterau meddygol presennol a dod o hyd i gyflogaeth yn y GIG. Amcangyfrifir fod y cynllun wedi arbed o leiaf £25 miliwn i drethdalwyr dros y 15 mlynedd diwethaf, wedi rhoi'r gallu i ffoaduriaid ddefnyddio eu sgiliau i dalu'n ôl i Gymru, ac arbed bywydau dirifedi hefyd.
Y Swyddfa Gartref yn unig a all ddatrys rhai o'r materion a godwyd gan ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn 2017. Nid yw'n gyfrinach ein bod yn teimlo'n rhwystredig yn aml yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y DU o ran materion lloches a mudo. Ond mae'n rhaid inni dderbyn nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli i Gymru. Serch hynny, rydym wedi cymell y dylid cynyddu'r cymorth ariannol i geiswyr lloches sy'n aros am benderfyniadau, rhoi arian ychwanegol i awdurdodau lleol sy'n cynorthwyo ceiswyr lloches yn eu bro, a safonau gwell o lety lloches, ymysg pethau eraill. Yn anffodus, a dweud y lleiaf, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi ymgorffori ein hargymhellion wrth ddylunio eu contractau llety lloches sydd ar y gweill nac ychwaith wedi cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol i'r system lloches. Byddwn yn gwneud cymaint ag y gallwn i liniaru effeithiau negyddol polisïau Llywodraeth y DU ar integreiddio yn y gymuned yng Nghymru a byddwn yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda'r Swyddfa Gartref i nodi a chodi pryderon lle byddant yn dod i'r amlwg.
Mae ein cynllun cenedl noddfa yn canolbwyntio ar gynigion o fewn y meysydd datganoledig hynny y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu arnynt. Mae'r cynllun yn amlinellu ehangder y gwaith yr ydym yn ymgymryd ag ef i sicrhau lleihad yn yr anghydraddoldebau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cynnydd yn y cyfleoedd a ddaw i'w rhan, a bod cysylltiadau rhwng y cymunedau hyn a'r gymdeithas ehangach yn gwella.
Rydym wedi blaenoriaethu'r materion allweddol y soniodd ffoaduriaid a cheiswyr lloches amdanynt wrthym yn ystod y gwaith paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gall unigolion gael gwybodaeth a chyngor i'w helpu i ymsefydlu yn eu hamgylchoedd newydd, cefnogi cyfleoedd i ddysgu'r iaith a dod o hyd i gyflogaeth, dod o hyd i ffyrdd o osgoi amddifadedd, a gwella mynediad i wasanaethau iechyd.
Wrth ddatblygu'r camau, rydym wedi ceisio rhwystro'r problemau mwyaf niweidiol y mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eu profi yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys digartrefedd, cyflyrau iechyd meddwl, llety llwm a'r perygl o amddifadedd. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd calonogol yn rhai o'r meysydd hyn eisoes ond mae llawer o waith i'w wneud eto i wella canlyniadau.
Rydym yn parhau i ystyried gwelliannau er mwyn cefnogi'r rhai sy'n ceisio lloches, gan gynnwys edrych ar ymestyn cymhwysedd am grantiau addysg a thrafnidiaeth ratach i geiswyr lloches. Mae'r rhain yn feysydd cymhleth a sensitif, a gallai rhuthro i ymestyn cymhwysedd arwain at ganlyniadau anfwriadol ar gyfer ceisiadau am loches. Mae angen hefyd i Lywodraeth y DU gydnabod ein hawydd i sicrhau y gall pob aelod o gymdeithas Cymru integreiddio, a chytuno i beidio â thanseilio'r bwriad hwn drwy roi ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru ar restr yr arian cyhoeddus gwaharddedig yn y rheolau mewnfudo . Rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o ymestyn hawliau er budd integreiddio cymunedol a lles personol. Ond mae angen inni weithio drwy broblemau posibl yn ofalus i sicrhau ein bod yn gwneud pethau yn well ar gyfer pobl mewn perygl o amddifadedd ac nid yn waeth.
Rydym yn parhau i weithio i roi ein cefnogaeth i blant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Er na ofynnwyd inni yn y pen draw gan Lywodraeth y DU i groesawu cymaint o blant i Gymru dan y cynllun Dubs ag yr oeddem wedi cynllunio ar eu cyfer, rydym wedi gallu cynnig diogelwch a dechrau newydd i nifer fechan ac rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw yn eu bywydau yma. Ynghyd â'r Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ac â'n Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, rydym wedi ceisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU yn rheolaidd ar ystod o faterion sy'n ymwneud â'r plant hyn. Nid yw'r ymatebion a gawsom wedi bod mor gadarnhaol, rhagweithiol nac mor ddefnyddiol ag y byddem wedi eu dymuno, mae'n ddrwg gennyf ddweud, Dirprwy Lywydd. Er hynny, rydym wedi gwneud cynnydd ar y camau gweithredu a argymhellwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau o ran y plant hyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Fel y soniais, mae'r cynllun cenedl noddfa yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a bydd y cynllun yn parhau i gael ei ddatblygu a'i ddiwygio i adlewyrchu'r ymatebion a'r awgrymiadau a geir pan ddaw'r cyfnod ymgynghori i ben ddydd Llun nesaf, 25 Mehefin. Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu y byddwn yn ceisio'u cymryd yng ngweddill y tymor Cynulliad hwn. Felly, mae'n llunio rhan bwysig o'r nod hirdymor o gael Cymru yn genedl noddfa wirioneddol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Ceir stondin Wythnos Ffoaduriaid yn yr Oriel yr wythnos hon, gan gynnwys ffilm newydd a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, a chyfle i'r cyhoedd ddatgan pa weithred syml y gallant ei chyflawni i gefnogi pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny gyda'i gilydd amser cinio heddiw, Dirprwy Lywydd. Rwy'n eich annog chi i ymweld â'r stondin a chynnwys eich gweithred eich hun. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau'r Oasis World Choir a ddaeth yma heddiw i ganu i ni. Gadewch inni ddangos iddynt sut y gall democratiaeth weithio er budd holl drigolion y genedl, a bod Cymru, y genedl fechan, yn gwneud llawer mwy na'r disgwyl o ran rhoi noddfa i bobl. Diolch.