Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos hon, dathliad o gyfraniad ffoaduriaid i'n cymdeithas, a digwyddiad i annog dealltwriaeth well rhwng cymunedau. Mae'n ugain mlynedd eleni ers ei lansio, ac mae trefnwyr Wythnos Ffoaduriaid yn gofyn i bobl gymryd rhan drwy gyflawni un weithred syml i gefnogi ffoaduriaid. Gall hyn fod mor syml â chael sgwrs gyda chymydog sy'n ceisio noddfa, neu ddysgu ychydig eiriau o iaith gwlad y ffoadur. Gallai pob un ohonom yma yn y Siambr hon wneud un peth pwysig, syml iawn, a hynny yw dangos ein cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru drwy groesawu'r cysyniad o Gymru fel cenedl noddfa.
Rwy'n gobeithio bod rhai ohonoch wedi clywed y rhyfeddol Oasis World Choir cyn y Cyfarfod Llawn heddiw. Mae'r côr yn cynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bedwar ban byd, ac maen nhw wedi dod yma heddiw fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid. Roedd rhai ohonyn nhw yn yr oriel yn gynharach—rwy'n amau nad ydyn nhw erbyn hyn. Ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn awyddus i ymuno â mi i'w croesawu nhw yma i'r Senedd.
Cafodd 'Cenedl Noddfa–Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' Llywodraeth Cymru ei ddatblygu wrth ymateb i argymhellion a wnaed gan adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb, a Llywodraeth Leol '"Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun": Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru'. Mae'r cynllun allan ar gyfer ymgynghoriad ar hyn o bryd. Cafodd ei gynhyrchu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau cymorth i ffoaduriaid, sefydliadau yn y sector cyhoeddus, ac, yn bwysicaf oll, y ceiswyr lloches a'r ffoaduriaid eu hunain. Rydym yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu yng Nghymru i gynorthwyo pobl sy'n chwilio am noddfa i ailadeiladu eu bywydau a chyflawni eu posibiliadau.
Mae Cymru yn genedl groesawgar. Mae'n amlwg ar unwaith, o siarad â phobl sy'n ceisio lloches a'r rhai sy'n eu cefnogi, fod y rhan fwyaf o ffoaduriaid sy'n dod i Gymru yn hynod ddiolchgar am y cymorth a gânt yma. Gallwn fod yn falch o'r ffaith honno. Serch hynny, mae gennym lawer i'w wneud eto i sicrhau y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches integreiddio yn effeithiol ac ailadeiladu eu bywydau. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac amddiffyn hawliau dynol. Credwn y dylid trin pob unigolyn yn deg, yn enwedig y rhai sydd fwyaf ar yr ymylon ac sy'n cael yr anhawster mwyaf i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol.