Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 19 Mehefin 2018.
Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a grwp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. O dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, mae dyletswydd gofal ar bob perchennog a phob un sy'n cadw anifeiliaid i sicrhau bod eu hanghenion lles yn cael eu diwallu, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro. Ni fyddwn yn goddef trin anifeiliaid yn wael, a dylai'r rheini sy'n cyflawni'r mathau gwaethaf o greulondeb wynebu cosbau llym. Dyna pam ein bod wedi cytuno i weithio gyda Llywodraeth y DU i gynyddu'r ddedfryd fwyaf am droseddau creulondeb anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu cydnabod fel bodau ymdeimladol ar ôl inni adael yr UE. Mae ein safbwynt yn glir: rydym yn cytuno'n llwyr bod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol ac mae'r posibilrwydd na chaiff hynny ei adlewyrchu mewn deddfwriaeth yn destun pryder.
Yn 2016, cyflwynwyd achos gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid Cymru ar gyfer creu cofrestr troseddwyr anifeiliaid yng Nghymru. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen ac ymgysylltwyd â rhanddeiliaid. Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i'r dystiolaeth ac yn ddiweddar cyflwynodd y grŵp ei adroddiad drafft i mi, gyda fersiwn terfynol i fod yn barod cyn toriad yr haf. Oherwydd absenoldeb atebion ymarferol a fyddai'n galluogi creu cofrestr o'r fath a diffyg tystiolaeth yn y DU i gefnogi'r effaith y mae rhai rhanddeiliaid yn credu y byddai cofrestr o'r fath yn ei chael, nid yw'r grŵp yn argymell datblygu cofrestr ar hyn o bryd.
Rwy'n ddiolchgar i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen am gyflawni'r gwaith hwn, ac yn enwedig RSPCA Cymru, prif erlynydd y trydydd sector mewn achosion lles anifeiliaid yng Nghymru. Darllenais argymhellion adroddiad Wooler 2014 gyda diddordeb ac, yn benodol, yr argymhelliad i arolygiaeth yr RSPCA dderbyn statws statudol o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Rwyf wedi gofyn i RSPCA Cymru ystyried yr argymhelliad hwn a darparu tystiolaeth a fyddai hynny'n ymarferol yng Nghymru.
Rydym ni wedi cyflwyno nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth yn y blynyddoedd diwethaf sy'n tanlinellu ein hymrwymiad i barhau i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Rydym ni wedi cyflwyno cynllun trwyddedu sy'n canolbwyntio ar les ar gyfer bridwyr cŵn trwyddedig a'r gofyniad i gŵn gael microsglodyn. Rydym ni wedi gwahardd y tocio cosmetig ar gynffonnau cŵn a defnyddio coleri sioc drydan ar gathod a chŵn, ac rwy'n falch mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i weithredu gwaharddiad o'r fath.
Yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i godi safonau perchnogion anifeiliaid cyfrifol, rwyf wedi gofyn i'r rheoliadau microsglodynnu, sydd bellach wedi bod mewn grym am ddwy flynedd, gael eu hadolygu. Cynhelir ymchwil i lefelau cydymffurfio a gorfodi, a p'un a oes angen gwneud mwy i sicrhau bod modd olrhain. Rwyf wedi gofyn hefyd i ystyriaeth gael ei rhoi i p'un a fyddai'n fuddiol ymestyn y rheoliadau i gynnwys rhywogaethau eraill, gan gynnwys cathod. Roedd cyflwyno rheoliadau bridio cŵn yng Nghymru yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â phryderon lles mewn sefydliadau bridio cŵn yng Nghymru. Hon oedd y ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y DU, a'r unig un o hyd.
Yn 2017, roedd arolwg a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn fuddiol fel cyfle i asesu'r safonau a ddefnyddir ar hyn o bryd yng Nghymru. Bydd prosiectau pellach o dan y bartneriaeth yn cael eu datblygu eleni. Yng Nghymru, rydym yn mynnu safonau uchel gan ein bridwyr trwyddedig, a phrynu ci bach iach y gellir ei weld gyda'i fam, neu ailgartrefu anifail o sefydliad lles anifeiliaid uchel eu parch, yw'r cam cyntaf hanfodol tuag at fod yn berchennog cyfrifol. Ond mae mewnforio cŵn bach yn anghyfreithlon, oherwydd galw anferth, yn parhau i fod yn broblem. Rydym eisoes yn gweithio'n agos gyda phartneriaid gweithredol a rhanddeiliaid i ymdrin â mewnforion anghyfreithlon, ond mae angen gwneud mwy. Rhaid hysbysu darpar berchnogion o'r amodau gwael y mae'r anifeiliaid hyn yn eu dioddef yn aml, yn ogystal â risgiau clefydau y gallant eu hachosi. Rwy'n credu ei bod hi'n werth ystyried gwaharddiad posibl ar werthiannau trydydd parti a byddaf yn trafod posibiliadau gyda swyddogion. Mae addysg yn agwedd allweddol ar hyn.
Rhaid i ddarpar berchenogion anifeiliaid anwes, a rhai cyfredol, ystyried y dyfodol wrth benderfynu dod yn berchen ar anifail ai peidio, gan gynnwys sut i fodloni ei anghenion lles a'r costau sydd ynghlwm wrth wneud hynny. Fodd bynnag, rwy'n deall y gall amgylchiadau pobl newid. Hoffwn archwilio pa ddarpariaeth, cymorth a chyngor milfeddygol sydd ar gael i bobl sydd angen cymorth i ofalu am eu hanifeiliaid anwes. Gallai hyn fod yn ystod cyfnodau o salwch neu argyfwng, megis ffoi o aelwyd dreisgar. Hoffwn weld dull cydweithredol, gyda gwybodaeth ar gael yn rhwydd ar gyfer pobl pan fo'i angen arnynt. Bydd swyddogion yn trafod sut y gellir ymdrin â hyn gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru.
Mae cydweithio yn elfen sylfaenol o wella safonau, ac rydym yn ffodus o gael sector lles anifeiliaid gwybodus ac ymroddedig yma yng Nghymru. Mae llawer o'r sefydliadau hyn wedi gweithio ac yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru fel aelodau o'r grŵp rhwydwaith lles anifeiliaid. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio gyda'r rhwydwaith i adolygu ein codau ymarfer presennol ar gyfer rhywogaethau penodol, yn ogystal â chefnogi datblygu cod ymarfer gwirfoddol, newydd, ar gyfer gwarchodfeydd. Diben y codau yw esbonio beth mae angen i rywun ei wneud i fodloni'r safonau gofal sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Mae'n fwriad gennyf gyflwyno'r codau ymarfer ar gyfer ceffylau a chŵn cyn toriad yr haf, ac i ddechrau ymgynghori ar y cod diwygiedig ar gyfer cathod yn yr Hydref. Byddaf hefyd yn gofyn i'r rhwydwaith adolygu'r cod cwningod, ac i nodi a oes angen cyflwyno unrhyw godau newydd, fel ar gyfer milgwn rasio, primatiaid ac anifeiliaid anwes egsotig eraill.
Ni ellir cyflawni ymgorffori diwylliant o berchnogaeth gyfrifol ar wahân, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymroddiad a'r angerdd a ddangosir tuag at anifeiliaid yng Nghymru. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser, ond rydym yn falch, fel cenedl, o fod yn arwain y ffordd o ran codi safonau lles anifeiliaid.