– Senedd Cymru am 4:29 pm ar 19 Mehefin 2018.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar les anifeiliaid anwes. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ynglŷn â beth yr ydym ni'n ei wneud i barhau i wella safonau lles anifeiliaid yng Nghymru. Yn y datganiad hwn, byddaf yn canolbwyntio ar anifeiliaid cysur, neu anifeiliaid anwes.
Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a grwp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. O dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, mae dyletswydd gofal ar bob perchennog a phob un sy'n cadw anifeiliaid i sicrhau bod eu hanghenion lles yn cael eu diwallu, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro. Ni fyddwn yn goddef trin anifeiliaid yn wael, a dylai'r rheini sy'n cyflawni'r mathau gwaethaf o greulondeb wynebu cosbau llym. Dyna pam ein bod wedi cytuno i weithio gyda Llywodraeth y DU i gynyddu'r ddedfryd fwyaf am droseddau creulondeb anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu cydnabod fel bodau ymdeimladol ar ôl inni adael yr UE. Mae ein safbwynt yn glir: rydym yn cytuno'n llwyr bod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol ac mae'r posibilrwydd na chaiff hynny ei adlewyrchu mewn deddfwriaeth yn destun pryder.
Yn 2016, cyflwynwyd achos gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid Cymru ar gyfer creu cofrestr troseddwyr anifeiliaid yng Nghymru. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen ac ymgysylltwyd â rhanddeiliaid. Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i'r dystiolaeth ac yn ddiweddar cyflwynodd y grŵp ei adroddiad drafft i mi, gyda fersiwn terfynol i fod yn barod cyn toriad yr haf. Oherwydd absenoldeb atebion ymarferol a fyddai'n galluogi creu cofrestr o'r fath a diffyg tystiolaeth yn y DU i gefnogi'r effaith y mae rhai rhanddeiliaid yn credu y byddai cofrestr o'r fath yn ei chael, nid yw'r grŵp yn argymell datblygu cofrestr ar hyn o bryd.
Rwy'n ddiolchgar i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen am gyflawni'r gwaith hwn, ac yn enwedig RSPCA Cymru, prif erlynydd y trydydd sector mewn achosion lles anifeiliaid yng Nghymru. Darllenais argymhellion adroddiad Wooler 2014 gyda diddordeb ac, yn benodol, yr argymhelliad i arolygiaeth yr RSPCA dderbyn statws statudol o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Rwyf wedi gofyn i RSPCA Cymru ystyried yr argymhelliad hwn a darparu tystiolaeth a fyddai hynny'n ymarferol yng Nghymru.
Rydym ni wedi cyflwyno nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth yn y blynyddoedd diwethaf sy'n tanlinellu ein hymrwymiad i barhau i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Rydym ni wedi cyflwyno cynllun trwyddedu sy'n canolbwyntio ar les ar gyfer bridwyr cŵn trwyddedig a'r gofyniad i gŵn gael microsglodyn. Rydym ni wedi gwahardd y tocio cosmetig ar gynffonnau cŵn a defnyddio coleri sioc drydan ar gathod a chŵn, ac rwy'n falch mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i weithredu gwaharddiad o'r fath.
Yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i godi safonau perchnogion anifeiliaid cyfrifol, rwyf wedi gofyn i'r rheoliadau microsglodynnu, sydd bellach wedi bod mewn grym am ddwy flynedd, gael eu hadolygu. Cynhelir ymchwil i lefelau cydymffurfio a gorfodi, a p'un a oes angen gwneud mwy i sicrhau bod modd olrhain. Rwyf wedi gofyn hefyd i ystyriaeth gael ei rhoi i p'un a fyddai'n fuddiol ymestyn y rheoliadau i gynnwys rhywogaethau eraill, gan gynnwys cathod. Roedd cyflwyno rheoliadau bridio cŵn yng Nghymru yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â phryderon lles mewn sefydliadau bridio cŵn yng Nghymru. Hon oedd y ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y DU, a'r unig un o hyd.
Yn 2017, roedd arolwg a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn fuddiol fel cyfle i asesu'r safonau a ddefnyddir ar hyn o bryd yng Nghymru. Bydd prosiectau pellach o dan y bartneriaeth yn cael eu datblygu eleni. Yng Nghymru, rydym yn mynnu safonau uchel gan ein bridwyr trwyddedig, a phrynu ci bach iach y gellir ei weld gyda'i fam, neu ailgartrefu anifail o sefydliad lles anifeiliaid uchel eu parch, yw'r cam cyntaf hanfodol tuag at fod yn berchennog cyfrifol. Ond mae mewnforio cŵn bach yn anghyfreithlon, oherwydd galw anferth, yn parhau i fod yn broblem. Rydym eisoes yn gweithio'n agos gyda phartneriaid gweithredol a rhanddeiliaid i ymdrin â mewnforion anghyfreithlon, ond mae angen gwneud mwy. Rhaid hysbysu darpar berchnogion o'r amodau gwael y mae'r anifeiliaid hyn yn eu dioddef yn aml, yn ogystal â risgiau clefydau y gallant eu hachosi. Rwy'n credu ei bod hi'n werth ystyried gwaharddiad posibl ar werthiannau trydydd parti a byddaf yn trafod posibiliadau gyda swyddogion. Mae addysg yn agwedd allweddol ar hyn.
Rhaid i ddarpar berchenogion anifeiliaid anwes, a rhai cyfredol, ystyried y dyfodol wrth benderfynu dod yn berchen ar anifail ai peidio, gan gynnwys sut i fodloni ei anghenion lles a'r costau sydd ynghlwm wrth wneud hynny. Fodd bynnag, rwy'n deall y gall amgylchiadau pobl newid. Hoffwn archwilio pa ddarpariaeth, cymorth a chyngor milfeddygol sydd ar gael i bobl sydd angen cymorth i ofalu am eu hanifeiliaid anwes. Gallai hyn fod yn ystod cyfnodau o salwch neu argyfwng, megis ffoi o aelwyd dreisgar. Hoffwn weld dull cydweithredol, gyda gwybodaeth ar gael yn rhwydd ar gyfer pobl pan fo'i angen arnynt. Bydd swyddogion yn trafod sut y gellir ymdrin â hyn gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru.
Mae cydweithio yn elfen sylfaenol o wella safonau, ac rydym yn ffodus o gael sector lles anifeiliaid gwybodus ac ymroddedig yma yng Nghymru. Mae llawer o'r sefydliadau hyn wedi gweithio ac yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru fel aelodau o'r grŵp rhwydwaith lles anifeiliaid. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio gyda'r rhwydwaith i adolygu ein codau ymarfer presennol ar gyfer rhywogaethau penodol, yn ogystal â chefnogi datblygu cod ymarfer gwirfoddol, newydd, ar gyfer gwarchodfeydd. Diben y codau yw esbonio beth mae angen i rywun ei wneud i fodloni'r safonau gofal sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Mae'n fwriad gennyf gyflwyno'r codau ymarfer ar gyfer ceffylau a chŵn cyn toriad yr haf, ac i ddechrau ymgynghori ar y cod diwygiedig ar gyfer cathod yn yr Hydref. Byddaf hefyd yn gofyn i'r rhwydwaith adolygu'r cod cwningod, ac i nodi a oes angen cyflwyno unrhyw godau newydd, fel ar gyfer milgwn rasio, primatiaid ac anifeiliaid anwes egsotig eraill.
Ni ellir cyflawni ymgorffori diwylliant o berchnogaeth gyfrifol ar wahân, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymroddiad a'r angerdd a ddangosir tuag at anifeiliaid yng Nghymru. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser, ond rydym yn falch, fel cenedl, o fod yn arwain y ffordd o ran codi safonau lles anifeiliaid.
Diolch. Paul Davies.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth Cymru, ac rwy'n falch hefyd bod digon o drafodaethau yn cael eu cynnal yn San Steffan ynghylch gwella safonau anifeiliaid. Yn wir, mae'n dda gweld bod y llywodraethau ar ddau ben yr M4 yn ymrwymo i'r agenda hon.
Wrth gwrs, byddai drafft y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabyddiaeth o Ddedfryd) 2017 yn cynyddu uchafswm y gosb am droseddau creulondeb anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd o garchar, a byddai'n sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu diffinio yng nghyfraith y DU fel bodau ymdeimladol. Wrth gwrs, rwy'n falch fod datganiad heddiw yn cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Bil hwn, felly efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw'n dal i fwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol i ganiatáu i'r rhwymedigaeth hon ymestyn i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Ac efallai y gallai hi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha drafodaethau y mae hi wedi eu cael gyda'i chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar y Bil penodol hwn, o ystyried ei effaith ar Gymru.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ymgynghoriad diweddar Llywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn bach drwy drydydd parti, a fyddai'n golygu na all siopau anifeiliaid anwes a delwyr anifeiliaid anwes werthu cŵn bach oni bai eu bod nhw wedi eu bridio eu hunain. Rwy'n sylwi bod y datganiad heddiw yn cadarnhau ei bod hi'n werth ystyried y posibilrwydd o wahardd gwerthu drwy drydydd parti, ac y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn trafod posibiliadau gyda swyddogion. Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn monitro canlyniadau ymgynghoriad Llywodraeth y DU, ond efallai y gall hi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y posibiliadau y mae hi wedi'u trafod hyd yma gyda'i swyddogion.
Wrth gwrs, mae'r gwaharddiad ar werthu cŵn bach drwy drydydd parti yn rhannol fynd i'r afael â masnach cŵn bach yn y DU, ond mae cyfle yma i edrych ar ystod o fesurau i fynd i'r afael â'r broblem hon, megis efallai tynhau rheoliadau ynghylch bridio a gwerthu cŵn bach. Nodaf o'r datganiad heddiw y cynhaliwyd arolwg yn 2017 gan awdurdodau lleol ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a oedd yn gyfle i asesu'r safonau sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru, ac y bydd prosiectau pellach dan y bartneriaeth honno yn cael eu datblygu eleni. Gan ein bod yn awr tua hanner ffordd drwy'r Cynulliad hwn, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet gynnal asesiad o effeithiolrwydd presennol rheoliadau bridio cŵn a hefyd ymhelaethu ar ba fath o brosiectau partneriaeth gaiff eu cynnal eleni.
Nawr, mae datganiad y prynhawn yma yn dweud wrthym ni y bydd y rheoliadau microsglodynnu presennol yn cael eu hadolygu ac efallai eu hymestyn i rywogaethau eraill, megis cathod, ac rwy'n ystyried tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni pa drafodaethau cychwynnol y mae hi wedi'u cael gyda sefydliadau lles cathod a'r sector lles anifeiliaid yn fwy cyffredinol ar y cam hwn am yr adolygiad hwn, a'r effaith o ymestyn y rheoliadau i rywogaethau eraill.
Mae un o'r materion anoddaf y credaf sydd angen mynd i'r afael ag o yn gysylltiedig â maint y gweithgarwch didrwydded a'r cynnydd mewn gwerthu ar-lein ar anifeiliaid anwes yng Nghymru, gan fod natur anweledig y system fasnachu hon wedi arwain at nifer o werthwyr ar-lein yn gallu osgoi deddfwriaeth bridio a gwerthu anifeiliaid anwes, ac yn hollbwysig nid yw'n rhoi unrhyw sylw i les anifeiliaid. Felly, er fy mod yn falch bod y datganiad heddiw yn edrych ar gyfres o fesurau ynghylch lles anifeiliaid, efallai y gallai hi ddweud wrthym ni ychydig mwy ynglŷn â beth yn benodol mae ei hadran yn bwriadu ei wneud o ran prynu a gwerthu anifeiliaid ac, yn benodol, masnachu ar-lein.
Nawr, mae ymgyrch lles anifeiliaid bwysig arall sydd wedi ennill cryn sylw yn ddiweddar yn ymwneud â gwarchodfeydd, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r arolwg YouGov ar gyfer RSPCA Cymru yn 2017, a ganfu fod 83 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud i berchnogion gwarchodfeydd anifeiliaid gael trwydded a chael eu harolygu i sefydlu neu weithredu safle o'r fath. Mae'n amlwg bod awydd i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth yma. Rwy'n derbyn bod y datganiad heddiw yn cadarnhau datblygu cod ymarfer gwirfoddol newydd ar gyfer gwarchodfeydd. Fodd bynnag, byddwn yn ddiolchgar pe gallai hi roi ei syniadau cychwynnol ynglŷn â sut y dylai sefydliadau lles anifeiliaid gael eu monitro i sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau lles uchaf, ac efallai yn y lle cyntaf y byddai hi'n ystyried rhoi diffiniad clir o'r ymadrodd 'sefydliad lles anifeiliaid' fel nad oes amwysedd wrth sôn am ba fath o sefydliadau y byddai unrhyw godau newydd yn berthnasol iddynt ac i sicrhau bod yr holl warchodfeydd wedi'u cynnwys o fewn y diffiniad hwn.
Wrth gwrs, mae'r datganiad heddiw yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar adolygu amrywiaeth o godau ymarfer ar gyfer anifeiliaid anwes, ac rwy'n falch y bydd mwy o waith yn cael ei wneud yn yr Hydref gan ei bod hi'n hanfodol bod yr holl godau yn cael eu cadw yn gyfredol a'u hymestyn lle mae angen, a'u bod yn cael eu hystyried ochr yn ochr â meysydd portffolio eraill, oherwydd gall canllawiau lles anifeiliaid yn aml gael effaith ar bolisïau eraill Llywodraeth, megis iechyd a thai.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Edrychaf ymlaen at graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran eu polisïau lles anifeiliaid wrth i'r rheini ddatblygu. Diolch i chi.
Diolch i Paul Davies am y gyfres honno o gwestiynau. Fe wnaethoch chi ddechrau â drafft y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabyddiaeth o Ddedfryd), ac fe fynegais ein barn yn glir iawn yn fy natganiad, a soniais ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, oherwydd mae'n bwysig iawn bod gennym ni gyfundrefn ddedfrydu gymharol ledled Cymru a Lloegr. Credaf fod hynny'n bwysig fel bod eglurder gan yr asiantaethau gorfodi, bod gan y llysoedd eglurder a hefyd bod gan y cyhoedd yr eglurder hwnnw. Credaf felly, ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn hynny o beth.
Fe wnaethoch chi ofyn i mi gadarnhau fy mod yn cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf yn cadarnhau y byddaf yn cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer yr agweddau hynny o'r Bil sy'n amlwg wedyn yn berthnasol i Gymru. Rwyf wedi cael trafodaethau ynghylch hyn gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Michael Gove, a hefyd gyda'r Arglwydd Gardiner, sydd yn Weinidog â chyfrifoldeb am les anifeiliaid.
Fe wnaethoch chi sôn am werthu cŵn bach drwy drydydd parti, a byddwch yn ymwybodol o'r ymgyrch ynghylch cyfraith Lucy. Rwy'n gwybod fod digwyddiad yma yn y Senedd, credaf mai mis nesaf y mae, y mae Eluned Morgan yn ei noddi a byddaf yn siarad yno. Yn sicr, mae dros 100,000 o lofnodion ar y ddeiseb sy'n gysylltiedig â'r ymgyrch. Trafodwyd hynny yn y Senedd ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y rheoliadau, oherwydd maen nhw ond yn berthnasol i Loegr. Mae amodau penodol wedi eu cynnwys ynglŷn â bridio cŵn. Mae gofyniad na ellir ond dangos ci bach i'r darpar brynwr os yw gyda'i fam fiolegol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n wirioneddol werth ei ystyried. Rwy'n gwyfod fod ymgyrch casglu tystiolaeth wedi dod i ben yn ddiweddar, felly byddwn yn edrych ar hynny'n ofalus iawn.
Fe wnaethoch chi sôn am y rheoliadau microsglodynnu, a ddywedais oedd yn mynd i gael eu hadolygu. Maent wedi cael eu cyflwyno bellach ac wedi bod mewn grym ers dros ddwy flynedd, felly credaf ei bod hi'n adeg briodol iddynt gael eu hadolygu, ac mae'n amser hefyd i ni ystyried a ddylai anifeiliaid eraill gael eu microsglodynnu. Yn sicr, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth o ran cathod yn cael eu microsglodynnu, felly rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar hynny i mi.
Rwy'n credu fod y sylw a wnaethoch chi ynghylch gwarchodfeydd yn berthnasol iawn, a'r diffiniad o sefydliad lles anifeiliaid, a bydd hynny'n rhan o'r broses graffu y byddwn yn mynd drwyddi. Rwyf eisiau sicrhau y rhoddir ystyriaeth i p'un a fyddai'n addas i ddefnyddio'r cod fel dogfen statudol. Credaf ei bod hi'n bwysig bod ganddo'r statws hwnnw. Felly, unwaith eto, rwy'n gweithio gyda'r rhwydwaith lles anifeiliaid i'w cefnogi i ddatblygu cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid a gwarchodfeydd, a byddaf yn amlwg yn rhoi'r manylion diweddaraf i aelodau.
Diolch ichi am y datganiad yma heddiw. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn siomedig am y rhan yn y datganiad o ran y gofrestr troseddwyr anifeiliaid yma yng Nghymru, yn arbennig o ystyried eich bod wedi gwneud datganiad heb unrhyw wybodaeth gefndirol inni ynghylch beth ddigwyddodd mewn gwirionedd yn rhan o'r adolygiad hwnnw. Rwy'n arbennig o siomedig o ddarllen y credwch chi, oherwydd nad oes digon o dystiolaeth yn y DU, fod hynny'n rhywbeth na allwn ni wedyn ei ddatblygu. Mae digon o dystiolaeth ryngwladol, a thybed pa waith sydd wedi'i wneud yn hynny o beth. Er enghraifft, mae cofrestr agored talaith gyfan yn Tennessee; yn Efrog Newydd, mae cofrestr gaeedig ar gyfer siopau anifeiliaid anwes a gwarchodfeydd anifeiliaid a rhaid iddynt gyfeirio at hon cyn gwerthu neu drosglwyddo anifeiliaid; mae cofrestr anifeiliaid Orange County— unwaith eto, yn America—yn cael ei chynnal gan Swyddfa'r Siryf, a rhaid i unrhyw un a gollfernir gyflwyno gwybodaeth i'r Swyddfa honno, a rhaid i unrhyw un sy'n trosglwyddo perchenogaeth wirio'r cofrestru cyn unrhyw newid perchnogaeth. Os nad oes gennym ni gofrestr cam-drin anifeiliaid mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, byddai'n anodd cael tystiolaeth yn seiliedig ar arfer oherwydd nad yw'n bodoli. Dyna yn union pam roedd pobl fel fi yn galw am un i Gymru yn gyntaf, fel y gallem ni ymchwilio i hyn, a hefyd er mwyn i asiantaethau gorfodi cyfraith y DU allu defnyddio'r wybodaeth benodol hon i greu proffil o bobl a fyddai o bosibl yn cam-drin anifeiliaid ac wedyn yn mynd ymlaen i gam-drin pobl mewn bywyd go iawn. Mae hyn yn bwysig iawn, ac rwy'n credu ei fod yn gyfle gwirioneddol a gollwyd, ac fe hoffwn i weld y dystiolaeth sy'n cefnogi'r casgliad. Mae'n anodd iawn gwneud sylwadau heb weld unrhyw beth heddiw.
O ran codau lles anifeiliaid amrywiol, fe wnaethoch chi sôn am rai yn eich datganiad, ond wnaethoch chi ddim sôn am y cod adar hela. Pryd y caiff hwn ei adolygu? Mewn sgyrsiau a gefais gyda'r Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon, nid yw hwn yn cael ei fonitro ar hyn o bryd. Byddent yn hoffi cyfarfod â chi i drafod lles adar hela, felly rwy'n meddwl tybed a fyddech yn derbyn y cynnig hwnnw i gwrdd â nhw, oherwydd teimlaf ei fod ar goll o'r codau hyn ac mae'n rhywbeth sydd yr un mor bwysig â chodau ar gyfer ceffylau a chathod.
O ran gwaith traws-lywodraethol, ni allaf weld unrhyw beth yn y datganiad hwn ynglŷn â sut yr ydych chi'n gweithio gyda'r sector tai. Soniais wrth y Gweinidog, Rebecca Evans, am y datganiadau y mae landlordiaid yn eu cyflwyno: 'Dim anifeiliaid anwes, dim DSS'. Rydym ni'n gweld cynnydd mewn landlordiaid sy'n gwrthod tenantiaid ag anifeiliaid anwes oherwydd, o bosib, eu bod wedi cael problemau yn y gorffennol. Rydych chi'n dweud llawer yn y datganiadau hyn ynghylch sut y mae gwneud pobl yn well gofalwyr ar gyfer yr anifeiliaid anwes sydd ganddynt, ond pan mae ganddynt anifeiliaid anwes, gwahaniaethir yn eu herbyn yn aml, ac mae'r anifeiliaid anwes hynny yn wirioneddol hanfodol i'w iechyd meddwl, i sut y maent yn gweithredu mewn cymdeithas. Ac felly mae'n dda dweud, 'Wel, rhaid inni ofalu am yr anifeiliaid' ar un llaw, ond beth am sut y gall anifeiliaid helpu bodau dynol? Credaf fod hynny'n rhywbeth nad yw mewn gwirionedd yn cael digon o sylw yn y datganiad hwn heddiw.
Cytunaf hefyd â'r sylwadau a wnaed gan Paul Davies o ran gwerthu ar-lein. Rydym yn gweld llu o wahanol bobl yn gwerthu anifeiliaid amrywiol ar-lein, ac ymddengys fod hyn yn rhywbeth nad yw cael ei reoleiddio, nad yw'n cael ei fonitro, nad yw'n rhywbeth y mae gan unrhyw un reolaeth arno. Mae lles anifeiliaid yn allweddol yn hyn o beth, gan fod pobl yn aml yn bridio anifeiliaid, yna maen nhw'n sylweddoli na allan nhw ymdopi ac yna maen nhw yn eu gwerthu yn y ffyrdd hyn sy'n ymddangos i fod yn hawdd iddyn nhw gael gwared ar y baich y maen nhw'n ystyried bod yr anifeiliaid hyn yn ei roi arnynt, ond, hefyd, o bosib, nid ydynt yn gwneud hynny yn y modd mwyaf moesegol. Felly, anogaf chi i edrych ar hynny ymhellach hefyd.
Diolch i chi, Bethan Sayed, am y cwestiynau hynny. Rwy'n cydnabod yn llwyr eich bod yn siomedig. Pwysleisiais mai dim ond yr adroddiad drafft oedd gennyf a byddaf yn cyflwyno ymateb o sylwedd i'r darn hwnnw o waith cyn toriad yr haf, mae'n debyg ar ffurf datganiad ysgrifenedig, ond rwy'n gwybod eich bod chi wedi cymryd diddordeb brwd yn y gofrestr troseddwyr anifeiliaid, felly deallaf yn llwyr pam yr hoffech chi weld y dystiolaeth. Fel y dywedais, dim ond yr adroddiad drafft yr wyf wedi'i gael, ond roedd rhai camau cadarnhaol—roedd nifer o gamau gweithredu cadarnhaol, mewn gwirionedd—yn yr adroddiad sydd, rwy'n credu, yn haeddu rhagor o waith, felly gwneir y gwaith hwnnw yn awr, ac, fel y dywedaf, rwy'n ymrwymo i gyflwyno ymateb llawn, sylweddol cyn toriad yr haf.
Dim ond heddiw, trafodais y cysylltiad rhwng pobl sy'n cam-drin anifeiliaid a cham-drin domestig gyda chynghorwyr cenedlaethol trais yn erbyn menywod. Cefais hefyd gyflwyniad gan Dr Freda Scott-Park. Mae hi wedi gwneud gwaith sylweddol gyda phractisau milfeddygol i sicrhau, lle maent yn gweld anafiadau annamweiniol ar anifeiliaid—efallai bod cysylltiad â cham-drin domestig. Felly, mae gwaith sylweddol yn digwydd ledled y DU, ond rwy'n credu—. Wyddoch chi, mae'n rhaid i mi wrando ar yr hyn y mae'r grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i ddweud, ond mae pethau eraill y gellir eu cyflwyno ar wahân i gofrestr.
Fe wnaethoch chi holi am y cod ymarfer o ran adar hela, ac rwy'n cytuno gyda DEFRA a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i adolygu a diwygio'r cod ymarfer. Nid oes gennyf amserlen ar gyfer hynny yn benodol, ond mae ymrwymiad y byddwn yn gwneud hynny. Os hoffech chi anfon llythyr ataf i ynghylch y grŵp yr ydych chi eisiau imi gwrdd â nhw, byddwn yn hapus iawn ystyried hynny, os yw'r dyddiadur yn caniatáu.
Nid wyf wedi cael sgwrs benodol gyda'r Gweinidog dros dai ynghylch landlordiaid, ond rwy'n credu bod hynny yn amlwg yn rhywbeth y mae angen inni ei ystyried. Fe'ch clywais yn dweud eich bod wedi sôn am hynny wrth y Gweinidog, a byddaf yn sicr yn holi ynghylch hynny hefyd.
O ran gwerthu ar-lein—ac mae'n ddrwg gennyf nad atebais gwestiwn Paul Davies ynghylch hynny—roeddwn yn synnu mewn gwirionedd gan faint o brynu anifeiliaid anwes ar-lein sy'n digwydd, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar hyn. Rydych yn gywir; nid yw'n cael ei reoleiddio, nid yw'n cael ei fonitro yn y modd y byddem yn dymuno. Felly, dyna ddarn o waith y mae angen inni ei wneud, ac yn anffodus, mae marchnad ar ei gyfer, ac ymddengys bod y farchnad honno, dim ond yn y ddwy flynedd yr wyf wedi bod yn y swydd hyd yn oed, wedi cynyddu, sy'n amlwg yn peri pryder.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet; mae llawer i'w groesawu yn eich datganiad pwysig iawn heddiw. Yn gyntaf, hoffwn gael rhywfaint o eglurhad ynglŷn â sawl peth. O ran y posibilrwydd o gyflwyno cyfraith Lucy i wahardd gwerthu cŵn bach drwy drydydd parti, croesawaf eich sylwadau ynghylch trafod posibiliadau gyda swyddogion. Gwyddom ar sail lles fod cydnabyddiaeth gynyddol ei fod yn gam da, ac fe hoffwn roi teyrnged gyhoeddus i waith Cyfeillion Anifeiliaid Cymru a'i sylfaenydd ysbrydoledig, Eileen Jones, a hefyd i Gyngor Rhondda Cynon Taf, sef y cyngor cyntaf yn y DU i basio cynnig yn condemnio gwerthiannau trydydd-parti. Gwn fod llawer o Aelodau'r Cynulliad eisoes wedi gofyn cwestiynau i chi am hyn, ond sut fyddwch chi yn manteisio ar yr arbenigedd trydydd parti sydd ar gael ynglŷn â'r agwedd hon er mwyn gwneud cynnydd yn hyn o beth?
Yn ail, nodaf eich sylwadau am yr anawsterau wrth sefydlu cofrestr troseddwyr anifeiliaid. Tybed a allech chi hefyd ddweud ychydig am fynd i'r afael ag ymladd â chŵn? Efallai i chi weld yr achos diweddar gyda phump o bobl yn cael eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud ag ymladd â chŵn yng Nghymru ac yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Sut arall all Llywodraeth Cymru helpu i fynd i'r afael â'r creulondeb ofnadwy hwn?
Ac yn olaf, mae'r sylwadau ynghylch cymorth ar adegau anodd ar gyfer perchnogion yn bwysig hefyd, ac yn arbennig help i bobl i gael gwasanaethau milfeddygol. Rydym ni wedi siarad yn aml am y niferoedd cynyddol o bobl sy'n defnyddio banciau bwyd yng Nghymru. Rwy'n deall erbyn hyn bod Ymddiriedolaeth Trussell yn derbyn bwyd anifeiliaid anwes, a gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, fod y banc bwyd cyntaf ar gyfer anifeiliaid anwes, yn wir, wedi'i sefydlu yng Nghymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru hefyd ymchwilio i fwydo anifeiliaid anwes yn rhan o'r adolygiad?
Diolch i chi, Vikki Howells, am y cwestiynau hynny. Byddaf yn sicr yn ymuno â hi i dalu teyrnged i Eileen Jones a Chyngor Rhondda Cynon Taf. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo o ran gwerthiannau trydydd parti, ac rwyf wedi gofyn i'r rhwydwaith edrych ar yr agwedd hon ar iechyd a lles anifeiliaid yn arbennig.
Fe wnaethoch chi holi ynglŷn â chŵn ymladd, sy'n amlwg yn erchyll ac yn anghyfreithlon, ac rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu. Os oes gan unrhyw un unrhyw dystiolaeth o hyn, dyna lle y dylent fynd yn y lle cyntaf.
O ran y gofrestr troseddwyr anifeiliaid, byddwch wedi clywed fy ateb i Bethan Sayed, ac, fel y dywedais, mae nifer o argymhellion yn yr adroddiad drafft y credaf sydd yn werth eu hystyried ymhellach. Er mai'r cyngor i mi yw peidio â chyflwyno cofrestr ar hyn o bryd, credaf fod y sylwadau a wnaeth Bethan ynghylch edrych ar y dystiolaeth yn fanwl—yn sicr byddaf yn gwneud hynny. Yn llythrennol dim ond yr adroddiad drafft yr wyf wedi'i gael, felly, nid wyf wedi cael y cyfle i wneud hynny eto, ond byddaf yn gwneud cyn imi wneud datganiad yn yr haf.
Soniais yn fy natganiad agoriadol y credaf fod angen inni edrych ar bobl sy'n cael trafferth; mae amgylchiadau yn newid. Soniais am ferched sydd yn ffoi o aelwyd dreisgar, a chefais drafodaeth gyda'r cynghorwyr heddiw. Felly, credaf y dylem ni weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Cŵn; gwn eu bod yn helpu. Mewn gwirionedd, fel Llywodraeth, rydym ni wedi cael dau ymchwiliad yn ystod y misoedd diwethaf ynghylch maethu anifeiliaid anwes ar frys, ac mae'n amlwg nad oes gennym ni'r cyfleusterau i wneud hynny. Felly, mae a wnelo hynny â gweithio gydag elusennau ac â'r trydydd sector i weld a yw hynny ar gael.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Cytunaf â'r teimladau sydd wrth wraidd y datganiad.
Cŵn sydd gan y mwyafrif o aelwydydd sydd ag anifeiliaid anwes, ac mae nifer o faterion ynghylch lles cŵn, un amlwg yw: mewn cymdeithas heddiw, a ydynt yn cael digon o ymarfer ac ysgogiad cyffredinol? Y dyddiau hyn, mae llawer o aelwydydd yn cynnwys cyplau sydd ill dau yn gweithio yn ystod y dydd, felly gall hyn fod yn broblem. Felly, rhaid inni fod yn siŵr bod pobl sy'n prynu cŵn yn byw mewn ffordd sy'n briodol i fod yn berchen ar gŵn. Os yw cŵn yn brin o ysgogiad, gallant arddangos problemau ymddygiadol megis pryder, mewn rhai achosion, neu mewn achosion eraill, ymddygiad ymosodol. Yna byddai angen ymdrin â nhw drwy ddosbarthiadau hyfforddiant. Bellach, mae dosbarthiadau hyfforddiant yn orfodol i berchnogion cŵn a brynwyd o lawer o'r canolfannau achub, ond dydyn nhw ddim yn orfodol ar gyfer cŵn a brynwyd drwy ddulliau eraill fel gwerthwyr preifat. Nid wyf yn dweud bod yn rhaid iddo fod yn orfodol, ond a oes angen, efallai, rhoi cyhoeddusrwydd i'r manteision o roi cŵn drwy ddosbarthiadau hyfforddiant ac a oes angen i ni wneud mwy i addysgu perchnogion cŵn ynghylch lles a chostau cadw eu hanifeiliaid? Sylwaf mai addysg yw un o'r themâu yn eich datganiad heddiw.
Dywedwch fod y rheoliadau microsglodynnu a gyflwynwyd ar gyfer cŵn yn cael eu hadolygu. Mae'n ymddangos yn synhwyrol i gyflwyno hynny gyda'r cynnydd mewn achosion o gipio cŵn, yn enwedig bridiau drud. Soniasoch eich bod yn ystyried pa un a oes achos cryf dros ymestyn y cynllun gosod microsglodion i gathod. Byddwn yn meddwl bod achos cryf dros wneud, ond gwn eich bod chi wedi ymateb i hynny eisoes pan soniodd Paul Davies am hynny, felly efallai na fyddwch yn gallu dweud mwy ynglŷn â'r mater hwnnw heddiw.
A gaf i sôn am geffylau? Does dim llawer o fanylion yn y datganiad heddiw am geffylau, er y gwn fod cod diwygiedig o arfer ar y gweill. Gwyddom fod cael gwared ar geffylau sâl ac anafus ar ei uchaf erioed, felly mae hwn yn fater o bwys. Yn wir, mae'r RSPCA yn honni bod argyfwng ceffylau. Un o'r problemau yw bod ceffylau yn gymharol rad i'w prynu, ond yn ddrud i ofalu amdanynt. Felly, un ffordd o fynd i'r afael â hyn yw mynd yn ôl at yr agwedd o addysg—unwaith eto, a oes mwy y gallwn ni ei wneud i addysgu darpar berchnogion ceffylau am gost a lles cadw ceffylau? Ar lefel fwy plwyfol, mae rhai pobl sydd ag un ceffyl. Mae ceffylau yn anifeiliaid sydd wedi arfer byw gyda cheffylau eraill mewn gwirionedd, felly efallai nad yw cadw ceffyl ar ei ben ei hun yn syniad da o ran lles yr anifail. Nawr, mae achos y gwn amdano—mae dau gymydog imi, sy'n byw dau ddrws oddi wrth ei gilydd a phob un yn berchen ar un ceffyl. Mae un o'r ceffylau hynny yn arbennig yn edrych yn druenus iawn ac mae'n debyg y byddai'n well iddynt gadw'r ceffylau gyda'i gilydd yn yr un cae. Tybiaf felly, ein bod yn dychwelyd, unwaith eto, i fater addysg. A oes unrhyw bethau mwy penodol y gallwn ni eu gwneud i hyrwyddo addysg am les anifeiliaid anwes?
Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch unigolion yn dod yn berchnogion cŵn—dyna un y soniasoch amdano. Rwy'n credu ei fod yn dda i iechyd a lles. Rwyf wedi mynychu dosbarthiadau addysg y mae'r Ymddiriedolaeth Cŵn yn eu cynnal, er enghraifft, ac fel y dywedwch, mae'n orfodol os ydych yn cael eich anifail anwes gan un o'r sefydliadau hyn. Nid wyf yn credu y byddem yn ystyried gwneud hynny yn orfodol, ond credaf fod angen i ni allu rhoi cyhoeddusrwydd iddo a byddwn yn hapus iawn i weld a ellid ei roi ar y wefan.
Nid oes dim pellach y gallaf ei ddweud ynghylch microsglodynnu, ond credaf eich bod yn iawn; mae achos cryf dros edrych ar ficrosglodynnu cathod, felly mae hynny'n waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
Fe wnaethoch chi holi am y cod ymarfer er lles ceffylau. Mae'r grŵp rhwydwaith lles anifeiliaid wedi adolygu a diwygio'r cod ymarfer yn 2016. Hefyd cawsom ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y fersiwn diwygiedig fis Hydref diwethaf a chyhoeddais grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad dim ond y mis diwethaf. Byddwn yn adolygu'r cod ymarfer ac yn ei gyhoeddi cyn toriad yr haf eleni.
O ran ceffylau, yn ddiddorol, es allan am hanner diwrnod gyda'r RSPCA ac roedd pob achos yr ymwelwyd â nhw, namyn un, o ran â lles ceffylau. Soniasoch am addysg mewn perthynas â phobl yn cadw cŵn a cheffylau, ac rydym ni wedi cael y trafodaethau hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, oherwydd fe wnaethom ni ystyried p'un a allai rhoi rhywbeth yn y cwricwlwm, ond byddwch yn gwerthfawrogi fod y cwricwlwm yn eithaf llawn. Rwy'n credu bod problem ynghylch addysg, ac unwaith eto, rydym yn cyhoeddi llawer iawn o wybodaeth ar ein gwefan a bob amser yn ystyried beth y gallwn ni ei wneud i roi cyhoeddusrwydd pellach i hyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond ychydig o fân amrywiadau ar y mater o ran lles anifeiliaid. Bu tuedd i ystyried lles anifeiliaid, yn enwedig o ran ffioedd meddygol, fel rhywbeth moethus, yn yr ystyr y codir treth ar werth. Rydym yn gwybod, yn achos llawer o bobl, fod lles eu hanifeiliaid yn aml yn dibynnu ar p'un a allant fforddio mewn gwirionedd gwasanaethau meddygol. Credaf ei bod yn werth cofnodi gwaith gwych cyrff fel y PDSA, sef Fferyllfa'r Bobl ar gyfer Anifeiliaid Sâl, ac, yn fy etholaeth i, Hope Rescue yn Stryd Taf ym Mhontypridd—y gwaith a wnânt o ran lles cŵn ac anifeiliaid.
Cyfeiriasoch eich bod, wrth gwrs, wedi cael trafodaethau gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth y DU o ran sut y gellid cydweithio. Ymddengys i mi fod y mater o reoleiddio ffioedd milfeddygol yn rhywbeth y dylid rhoi sylw iddo. Mae'n ymddangos i mi bod ychydig iawn o eglurder ynghylch ffioedd milfeddygol. Ymddengys nad ydynt yn cael eu rheoleiddio i raddau helaeth, ymddengys eu bod yn cynyddu tua 12 y cant y flwyddyn, ac yna, ar ben hynny, mae tâl TAW o 20 y cant. Wrth gwrs, os ydych chi'n weithredwr masnachol—os ydych yn ffermwr, er enghraifft— gallwch gael y TAW yr ydych yn ei thalu yn ôl, ond os ydych yn berchen ar anifeiliaid anwes, yn amlwg, ni allwch. Rwyf wir yn meddwl tybed, o ran anifeiliaid anwes domestig ac at ddibenion lles anifeiliaid, a ddylai'r mater o leihau TAW ar filiau milfeddygol, neu efallai hyd yn oed ei ddileu yn gyfan gwbl, fod yn rhywbeth y dylid ei ystyried o leiaf, y dylid ei drafod, ond y dylai fod pethau hefyd y gallai Llywodraeth Cymru ac efallai ein cymheiriaid ei wneud i sicrhau llawer mwy o eglurder o ran ffioedd milfeddygol i berchnogion anifeiliaid anwes.
Diolch. Mae Mick Antoniw yn gwneud sylw diddorol iawn, ac rwy'n cyfarfod â Chymdeithas Milfeddygon Prydain yr wythnos nesaf, ac mae'n rhywbeth y byddaf i'n hapus iawn ei drafod gyda nhw. Nid wyf wedi cael trafodaethau ynghylch hynny gyda'm cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, ond byddaf yn sicr yn siarad â Chymdeithas Milfeddygon Prydain i ddechrau i weld beth yw eu cynghor nhw, ond rwy'n hapus iawn ystyried unrhyw gydweithio a fyddai'n helpu pobl â ffioedd milfeddygol.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i groesawu'r datganiad? Rwy'n credu bod yr egwyddor o berchnogaeth gyfrifol a grybwyllir tuag at ddiwedd eich datganiad yn allweddol, ond rwyf yn credu bod angen gwneud mwy â hynny. Mae nifer o'r Aelodau, gan gynnwys Gareth Bennett, wedi sôn am yr angen am addysg, ac wedi'r cyfan, perchnogion anifeiliaid anwes sydd yn mynd i allu sicrhau'r lles anifeiliaid gorau. Ni waeth pa mor dda yw ein cyfreithiau a'n rheoliadau, ymddygiad pobl sy'n allweddol yn y fan yma.
Mae'n rhaid imi ddweud, ychydig o fisoedd yn ôl, ymwelais â Chartref Cŵn Caerdydd, ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i ganmol eu gwaith rhagorol—mae'n lle hynod obeithiol, nad oeddwn i efallai yn ei ddisgwyl—ac hefyd cyfeillion Cartref Cŵn Caerdydd yn ogystal, sy'n rhoi ymarfer corff i'r anifeiliaid ddwywaith y dydd, ac, yn wir, dyna wnes i yn rhan o fy ymweliad. Ond, beth bynnag, roedd y staff a'r gwirfoddolwyr yno yn sôn wrthyf i am y problemau sydd ganddynt yn aml o ran cŵn yn cael eu gadael, oherwydd i bobl eu cael yn y lle cyntaf, yn anghyfrifol, yn ategolion ffasiwn—mae hyn yn swnio'n rhyfeddol, ond gallaf eich sicrhau chi ei fod yn digwydd—ac yna, ar ôl ryw chwe mis, mae'r hwyl o gael yr ategolyn ffasiwn hwn, yr ydych chi'n ei ddangos i'ch ffrindiau neu beth bynnag, yn pylu ac mae realiti gofalu am anifail ymdeimladol ag amrywiaeth o anghenion eithaf amlwg yn golygu eu bod yn mynd yn ddidaro neu hyd yn oed yn ddideimlad ac mae'r anifeiliaid yn aml yn cael eu gadael, ac yn cael eu gadael yn llythrennol—eu gyrru filltiroedd lawer ac wedyn eu taflu o'r car. Felly, dyna'r pwynt cyntaf.
Yr ail bwynt, ac, unwaith eto, mae sawl person wedi sôn am hyn, ond hoffwn eich cyfeirio at waith yr elusen Cats Protection, sydd wedi tynnu sylw at broblem anifeiliaid anwes yn cael eu gadael pan fo pobl yn symud i lety rhent. Maen nhw hefyd yn sôn, pan fydd pobl yn mynd i ryw fath o lety gofal, yn aml mae'n rhaid iddyn nhw ildio eu hanifeiliaid anwes yn awtomatig—cathod yn yr achos hwn—ac mae'r anifeiliaid hyn yn aml yn anifeiliaid hŷn na ellir eu hailgartrefu'n hawdd iawn. Rwy'n credu y gallai landlordiaid a'r rhai hynny sy'n rhedeg gwahanol fathau o lety gofal, llety gwarchod neu beth bynnag—cartrefi preswyl—gallai llawer ohonyn nhw yn eithaf hawdd gael eu haddasu ar gyfer anifeiliaid anwes. Rwy'n credu bod y rhai hynny sydd mewn llety rhent—yn wir, rwyf i'n byw mewn condominiwm, ac mae gennym ni ragdybiaeth y gallwch chi gael anifail anwes oni bai bod rhesymau cryf iawn dros beidio â chael yr anifail anwes, ac mae hynny'n ffordd llawer gwell o weithredu. Byddai'n decach, hefyd, a byddai'n cynnwys pobl mewn rhyw fath o lety rhent. Rwy'n credu bod hynny'n broblem wirioneddol, ac rwy'n cymeradwyo'r elusen am sôn am y mater hwnnw.
Diolch, David Melding, am y cwestiynau a'r sylwadau hynny, ac rwy'n sicr yn ategu ei deyrnged i Gartref Cŵn Caerdydd. Rwyf wedi ymweld â sawl un o'r sefydliadau hyn ers i mi fod yn y swydd, ac mae ymroddiad y staff a'r gwirfoddolwyr yn anhygoel. Rwy'n cofio mynd i ganolfan yr Ymddiriedolaeth Cŵn ym Mhen-y-bont ar Ogwr ychydig cyn y Nadolig, ac roedd llawer o gŵn yno ar y pryd, a gallwch chi ddychmygu—. Fe wnaethoch chi sôn ynghylch ategolion ffasiwn a phobl yn cael gwared ar anifeiliaid anwes ar ôl chwe mis, ac mae'r un peth yn digwydd, yn amlwg, ar adeg y Nadolig. Mae llawer o bobl yn cael anifeiliaid anwes adeg y Nadolig ac yna ychydig fisoedd yn ddiweddarach—. Ond rwy'n cofio mynd i'r lle hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac roedd gan bob ci hosan Nadolig yn llawn anrhegion. Mae ymroddiad y bobl hyn yn hollol anghredadwy.
O ran y mater ynghylch landlordiaid, rwy'n gweld bod y Gweinidog tai yn y Siambr nawr, felly bydd hi wedi clywed hynny, ac yn amlwg fe soniodd Bethan Sayed am hyn wrthyf hefyd, a byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda Rebecca Evans ynglŷn â hyn. Rwyf i hefyd yn byw mewn llety rhent yma yng Nghaerdydd, ac mae'n union yr un fath. Cewch chi fod ag anifail anwes oni bai—wyddoch chi, mae'n rhaid cyflwyno achos dros beidio cael un. Felly, rwy'n credu bod llawer iawn o waith y gallwn ni ei wneud â landlordiaid i wneud yn siŵr nad yw'r sefyllfaoedd y gwnaethoch chi eu disgrifio yn digwydd.
Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd, yn amlwg, popeth mae pobl wedi'i ddweud, ond fe hoffwn i yn arbennig gefnogi yr hyn a ddywedodd David Melding am, yn enwedig, pobl sydd wedi bod ag anifeiliaid ers amser maith, a'r anifeiliaid hynny yn heneiddio, ac sy'n cael eu hanfon, mewn gwirionedd, i'w marwolaeth, oherwydd na fydd neb yn eu cymryd.
Ond rwyf i hefyd eisiau canolbwyntio ar holl fwriad yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi cyngor i bobl o ran sut i ofalu am eu hanifeiliaid yn y modd cywir a mwyaf priodol. Eto, fe wnes i arolwg cyflym iawn fy hun, a chanfod nad yw llawer o bobl yn gwybod ein bod yn gwneud hyn. Doedden nhw ddim yn gwybod dim am y cod ymarfer ar gyfer anifeiliaid anwes ymhlith y cyhoedd, ac rwy'n credu bod angen inni weithio ar hyn, p’un ai ni neu ryw rai arall.
Ond mae yna faes yr wyf i eisiau canolbwyntio arno, ac mae Vikki Howells wedi cyfeirio ato, sef ymladd cŵn. Dydy ymladd cŵn ddim dim ond yn ddrwg i'r anifeiliaid, ac wrth gwrs mae hynny yn amlwg, ond mae'n rhwydwaith cyfan sy'n ymgymryd, yn aml iawn, â gweithgarwch troseddol, betio, yfed a hefyd cymryd cyffuriau. Mae'n gyffredin iawn, rwyf wedi cael gwybod, mewn rhai ardaloedd o Gymru, a dylem ni mewn gwirionedd fod yn mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, oherwydd mae'n un o'r troseddau gwaethaf yn erbyn yr anifail, ac mewn rhai mannau wedi dod, bron, yn ymddygiad eithaf derbyniol.
Mae hyn yn mynd i swnio'n od, ond rwy'n mynd i gyflwyno maes arall y credaf y dylem ni ei ystyried pan fyddwn yn meddwl am les anifeiliaid. Mae angen inni hefyd feddwl am yr hyn yr ydym ni'n ei brynu yn ein siopau anifeiliaid anwes a allai effeithio ar ecoleg mewn mannau eraill, ac rwy'n sôn yn arbennig yma am bysgod trofannol ac a oes angen inni wneud ychydig o waith ynghylch—oherwydd mae tystiolaeth yn ymddangos—y difrod mawr i riffiau cwrel oherwydd bod pobl yn mynd i fachu'r pysgod sy'n byw yno, er mwyn i bobl rywsut eistedd ac edrych ar eu tanciau yn y cartref. Mae'r dystiolaeth mewn gwirionedd wedi ymddangos o'r ffilm Disney hwnnw, Finding Nemo, a phlant pobl eisiau pysgodyn sy'n edrych yn unig fel hwnnw. Felly, mae yna ddadl ehangach yn y fan yma, pan fyddwn ni'n ystyried lles anifeiliaid, am y dinistrio, sef, yn aml iawn, bod yr hyn yr ydym ni'n ei brynu yn effeithio ar gymunedau, yn eithaf difrifol, mewn mannau eraill.
Diolch, Joyce Watson, am godi'r tri phwynt hynny. O ran y codau ymarfer, rydym ni'n cydweithio ar y codau ymarfer, ac fe wnaethom ni weithio gyda grŵp rhwydwaith lles anifeiliaid i ddatblygu cynllun cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r codau ymarfer, felly rwy'n siomedig iawn eich clywed chi'n dweud hynny. Felly, rwy'n credu bod yna waith, yn sicr, y gallwn ni ei wneud ac y gallwn ni, Llywodraeth Cymru, ei wneud, ond rwy'n siŵr y bydd rhai o'n partneriaid ni yn hapus iawn i'n helpu. Ond, yn sicr, maen nhw ar wefan Llywodraeth Cymru. Gellir eu lawrlwytho, gallan nhw fod ar gael fel dogfennau papur, a hefyd, gallwch chi eu cael ar CD-ROM. Rwy'n gwybod fod fy swyddogion wedi gweithio gyda rhanddeiliaid fel sefydliadau lles, siopau anifeiliaid anwes, er enghraifft, a meddygfeydd milfeddygol i wneud yn siŵr ein bod yn dosbarthu'r codau ymarfer hynny ac yn codi ymwybyddiaeth ohonynt. Rwy'n gwybod fod yr RSPCA, yn arbennig, wedi bod yn awyddus iawn i'w defnyddio yn rhan o'u gweithgarwch gorfodi i annog gwelliannau mewn safonau pan ganfuwyd problemau ynglŷn â lles.
O ran ymladd cŵn, rydych chi'n hollol gywir: mae'n weithgaredd troseddol. Cefais drafodaeth am ymladd cŵn pan dreuliais beth amser gyda'r tîm troseddau gwledig yn y gogledd, ac rwyf i dreulio diwrnod arall gyda nhw ym mis Awst. Felly, unwaith eto, fe wnaf i sôn am hynny. Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod mor gyffredin ag y gwnaethoch chi ei awgrymu, ond rwy'n hapus iawn i gael trafodaeth arall gyda nhw am hynny.
Dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi gwneud unrhyw beth o ran pysgod trofannol, felly os nad oes ots gan yr Aelod, fe gaf i drafodaeth â'm swyddogion ac fe wnaf i ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.