Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth Cymru, ac rwy'n falch hefyd bod digon o drafodaethau yn cael eu cynnal yn San Steffan ynghylch gwella safonau anifeiliaid. Yn wir, mae'n dda gweld bod y llywodraethau ar ddau ben yr M4 yn ymrwymo i'r agenda hon.
Wrth gwrs, byddai drafft y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabyddiaeth o Ddedfryd) 2017 yn cynyddu uchafswm y gosb am droseddau creulondeb anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd o garchar, a byddai'n sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu diffinio yng nghyfraith y DU fel bodau ymdeimladol. Wrth gwrs, rwy'n falch fod datganiad heddiw yn cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Bil hwn, felly efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw'n dal i fwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol i ganiatáu i'r rhwymedigaeth hon ymestyn i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Ac efallai y gallai hi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha drafodaethau y mae hi wedi eu cael gyda'i chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar y Bil penodol hwn, o ystyried ei effaith ar Gymru.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ymgynghoriad diweddar Llywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn bach drwy drydydd parti, a fyddai'n golygu na all siopau anifeiliaid anwes a delwyr anifeiliaid anwes werthu cŵn bach oni bai eu bod nhw wedi eu bridio eu hunain. Rwy'n sylwi bod y datganiad heddiw yn cadarnhau ei bod hi'n werth ystyried y posibilrwydd o wahardd gwerthu drwy drydydd parti, ac y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn trafod posibiliadau gyda swyddogion. Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn monitro canlyniadau ymgynghoriad Llywodraeth y DU, ond efallai y gall hi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y posibiliadau y mae hi wedi'u trafod hyd yma gyda'i swyddogion.
Wrth gwrs, mae'r gwaharddiad ar werthu cŵn bach drwy drydydd parti yn rhannol fynd i'r afael â masnach cŵn bach yn y DU, ond mae cyfle yma i edrych ar ystod o fesurau i fynd i'r afael â'r broblem hon, megis efallai tynhau rheoliadau ynghylch bridio a gwerthu cŵn bach. Nodaf o'r datganiad heddiw y cynhaliwyd arolwg yn 2017 gan awdurdodau lleol ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a oedd yn gyfle i asesu'r safonau sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru, ac y bydd prosiectau pellach dan y bartneriaeth honno yn cael eu datblygu eleni. Gan ein bod yn awr tua hanner ffordd drwy'r Cynulliad hwn, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet gynnal asesiad o effeithiolrwydd presennol rheoliadau bridio cŵn a hefyd ymhelaethu ar ba fath o brosiectau partneriaeth gaiff eu cynnal eleni.
Nawr, mae datganiad y prynhawn yma yn dweud wrthym ni y bydd y rheoliadau microsglodynnu presennol yn cael eu hadolygu ac efallai eu hymestyn i rywogaethau eraill, megis cathod, ac rwy'n ystyried tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni pa drafodaethau cychwynnol y mae hi wedi'u cael gyda sefydliadau lles cathod a'r sector lles anifeiliaid yn fwy cyffredinol ar y cam hwn am yr adolygiad hwn, a'r effaith o ymestyn y rheoliadau i rywogaethau eraill.
Mae un o'r materion anoddaf y credaf sydd angen mynd i'r afael ag o yn gysylltiedig â maint y gweithgarwch didrwydded a'r cynnydd mewn gwerthu ar-lein ar anifeiliaid anwes yng Nghymru, gan fod natur anweledig y system fasnachu hon wedi arwain at nifer o werthwyr ar-lein yn gallu osgoi deddfwriaeth bridio a gwerthu anifeiliaid anwes, ac yn hollbwysig nid yw'n rhoi unrhyw sylw i les anifeiliaid. Felly, er fy mod yn falch bod y datganiad heddiw yn edrych ar gyfres o fesurau ynghylch lles anifeiliaid, efallai y gallai hi ddweud wrthym ni ychydig mwy ynglŷn â beth yn benodol mae ei hadran yn bwriadu ei wneud o ran prynu a gwerthu anifeiliaid ac, yn benodol, masnachu ar-lein.
Nawr, mae ymgyrch lles anifeiliaid bwysig arall sydd wedi ennill cryn sylw yn ddiweddar yn ymwneud â gwarchodfeydd, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r arolwg YouGov ar gyfer RSPCA Cymru yn 2017, a ganfu fod 83 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud i berchnogion gwarchodfeydd anifeiliaid gael trwydded a chael eu harolygu i sefydlu neu weithredu safle o'r fath. Mae'n amlwg bod awydd i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth yma. Rwy'n derbyn bod y datganiad heddiw yn cadarnhau datblygu cod ymarfer gwirfoddol newydd ar gyfer gwarchodfeydd. Fodd bynnag, byddwn yn ddiolchgar pe gallai hi roi ei syniadau cychwynnol ynglŷn â sut y dylai sefydliadau lles anifeiliaid gael eu monitro i sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau lles uchaf, ac efallai yn y lle cyntaf y byddai hi'n ystyried rhoi diffiniad clir o'r ymadrodd 'sefydliad lles anifeiliaid' fel nad oes amwysedd wrth sôn am ba fath o sefydliadau y byddai unrhyw godau newydd yn berthnasol iddynt ac i sicrhau bod yr holl warchodfeydd wedi'u cynnwys o fewn y diffiniad hwn.
Wrth gwrs, mae'r datganiad heddiw yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar adolygu amrywiaeth o godau ymarfer ar gyfer anifeiliaid anwes, ac rwy'n falch y bydd mwy o waith yn cael ei wneud yn yr Hydref gan ei bod hi'n hanfodol bod yr holl godau yn cael eu cadw yn gyfredol a'u hymestyn lle mae angen, a'u bod yn cael eu hystyried ochr yn ochr â meysydd portffolio eraill, oherwydd gall canllawiau lles anifeiliaid yn aml gael effaith ar bolisïau eraill Llywodraeth, megis iechyd a thai.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Edrychaf ymlaen at graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran eu polisïau lles anifeiliaid wrth i'r rheini ddatblygu. Diolch i chi.