Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 19 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl Cyfnod 4 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Cyn inni fwrw ymlaen â'r trafodion, rwy'n deall bod angen i'r Bil gael cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 26.67, rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hysbysu ddynodi cydsyniad cyn inni allu cynnal y ddadl hon. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau y cafwyd y cydsyniadau gofynnol? A allwch chi gadarnhau?