– Senedd Cymru am 5:22 pm ar 19 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl Cyfnod 4 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Cyn inni fwrw ymlaen â'r trafodion, rwy'n deall bod angen i'r Bil gael cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 26.67, rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hysbysu ddynodi cydsyniad cyn inni allu cynnal y ddadl hon. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau y cafwyd y cydsyniadau gofynnol? A allwch chi gadarnhau?
A allwch chi gadarnhau bod y —
Llywydd, rwyf dan orchymyn Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw i hysbysu'r Cynulliad fod ei Mawrhydi a'r Dug, ar ôl cael eu hysbysu ynghylch perwyl Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), wedi rhoi eu cydsyniad i'r Bil hwn.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, sy'n ein caniatáu ni i symud ymlaen i'r ddadl ar Gyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei gyfraniad—Vaughan Gething.
Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gynnig y cynnig ac agor dadl Cyfnod 4 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
Rydym wrth gwrs wedi gweithio ar y Bil hwn dros nifer o flynyddoedd. Buom yn ymgynghori gyntaf ar isafswm pris ar gyfer alcohol yn 2014, yn rhan o Bapur Gwyn iechyd y cyhoedd a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'm cydweithwyr gweinidogol Mark Drakeford a Rebecca Evans am eu gwaith yn llunio a datblygu'r ddeddfwriaeth newydd a phwysig hon. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am eu cefnogaeth ac am y gwaith craffu sydd wedi digwydd yn ystod hynt y Bil. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r tri phwyllgor—Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—am eu gwaith craffu. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhanddeiliaid allanol am eu hymgysylltiad parhaus ers cyflwyno'r Bil fis Hydref diwethaf, ond hefyd o ran eu cyfraniadau blaenorol, yn cynnwys eu hymatebion i'r ymgynghoriad ar Fil drafft yn 2015 dan fy arweiniad i, fel y Dirprwy Weinidog ar y pryd.
Mae'r Mesur hwn yn ymwneud yn benodol â diogelu bywyd ac iechyd. Mae'n darparu ar gyfer isafswm pris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru a bydd yn ei gwneud hi'n drosedd i fanwerthwyr safleoedd cymwys werthu neu gyflenwi alcohol yn rhatach na'r pris hwnnw. Cyfrifir yr isafswm pris ar gyfer alcohol yng Nghymru drwy luosi isafswm pris uned a bennir mewn rheoliadau, gyda chryfder canran yr alcohol a'i gyfaint. Ni fydd yn cynyddu pris pob diod alcoholig, dim ond y rhai a werthir ar hyn o bryd o dan y pris isaf perthnasol.
Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn gosod cyfres o droseddau a chosbau yn ymwneud â'r system newydd. Mae'n rhoi pwerau a dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i orfodi'r system pris isaf.
Bu galw ers tro am i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i'r afael â'r niwed i iechyd a'r difrod a achosir wrth yfed gormod o alcohol, ac mae'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud hynny yn union. Oherwydd o ran faint sy'n cael ei yfed, gwyddom fod pris alcohol yn bwysig. Gan ddefnyddio'r pris fel arf yn y modd hwn, gallwn dargedu a lleihau faint o alcohol sy'n cael ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol, a lleihau'r effaith ar yfwyr cymedrol. Bydd hyn yn helpu i wella nifer o ganlyniadau iechyd allweddol, gan gynnwys lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a'r nifer o bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd alcohol. A'r fformiwla sydd ar wyneb y Bil sy'n ein galluogi ni i dargedu alcohol rhad sy'n gryf gyda chyfaint uchel—y math o alcohol a yfir yn anghymesur gan yfwyr peryglus a niweidiol. Mae'n werth nodi mai 28 y cant o yfwyr sy'n yfwyr peryglus a niweidiol, yn ôl ymchwil a gynhaliwyd eleni gan Brifysgol Sheffield, ond maen nhw'n yfed 75 y cant o'r holl alcohol sy'n cael ei werthu.
Yn ystod hynt y Bil hwn, mae llawer wedi nodi data am niweidiau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, ac mae bob amser yn brofiad annifyr darllen data o'r fath, ac felly y dylai hi fod. Rwyf am ailadrodd rhai o'r ystadegau yn y fan yma heddiw. Bu dros 500 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru y llynedd yn unig ac aeth dros 54,000 o bobl i'r ysbyty oherwydd alcohol y llynedd yn unig. Amcangyfrifir bod costau gofal iechyd sy'n cael eu priodoli i alcohol yn £159 miliwn ar gyfer y llynedd yn unig. Ond problem sy'n fwy o lawer yw'r dinistr a ddaw yn sgil y ffigurau hynny—y teuluoedd, y cymunedau a'r canlyniadau i staff y GIG a'r gwasanaethau cynnal, wrth iddyn nhw ymdopi bob dydd yn sgil marwolaethau, afiechyd a niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle i ni wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae'n rhoi cyfle i ni wneud mwy i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ac, yn y pen draw, yn rhoi cyfle i ni wneud mwy i geisio achub bywydau. Ers i ni gyflwyno'r Bil i'r Cynulliad fis Hydref diwethaf, rydym ni wedi clywed gan amrywiaeth o wahanol arbenigwyr iechyd y cyhoedd a darparwyr gwasanaethau. Mae llawer ohonynt wedi cydnabod y gwahaniaeth y gallai'r ddeddfwriaeth hon ei wneud.
Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru:
Ceir tystiolaeth gref, ledled y DU ac yn rhyngwladol, y byddai cyflwyno isafswm pris uned yng Nghymru yn arwain at welliannau sylweddol i iechyd a lles y boblogaeth.
Ac mewn tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dadleuodd cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
mae isafswm pris fesul uned yn ddarn gwbl hanfodol o'r jig-so; a hebddo, ni fyddai llawer o'r ymyraethau eraill a ddarperir gennym a'r gwaith a wnawn yn cyflawni'r buddion yn llawn.
Mae Alcohol Research UK wedi nodi y bydd buddion yn cronni mwy mewn cymunedau tlotach yn... mae'r cymunedau hynny yn llai cydnerth o safbwynt problemau alcohol.
Wedi dweud hynny, nid oes unrhyw amheuaeth bod y Bil hwn yn wahanol ac yn arbrofol. Dim ond yr Alban sydd wedi cyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol yn y dull hwn, a daeth eu deddfwriaeth ar isafswm pris i rym ar 1 Mai eleni. Natur arbrofol y ddeddfwriaeth hon yw'r rheswm i ni gynnwys cymal machlud a darpariaethau i adolygu yn y Bil, ac mae'r darpariaethau hynny wedi'u cymeradwyo'n eang. Ond hoffwn achub ar y cyfle heddiw i ailddatgan y bydd darpariaethau i adolygu yn y ddeddfwriaeth yn seiliedig ar bum mlynedd o werthuso cadarn, a byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i ni ddatblygu'r gwaith hwnnw.
Rwyf hefyd yn bwriadu ymgynghori ynghylch lefel arfaethedig yr isafswm pris uned cyn gynted â phosibl ac, unwaith eto, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ein cynlluniau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn a'r amserlen sy'n gysylltiedig â hynny.
Angela Burns.
Diolch i chi, Llywydd, er nad wyf yn gwybod pam y dylwn ddiolch ychwaith oherwydd mae'r Bil hwn yn gwneud i mi anobeithio. Yma cawn enghraifft arall o Lywodraeth Cymru yn rhuthro drwy ddeddfwriaeth wedi ei llunio'n wael er mwyn cyflawni amcan polisi Llywodraeth Cymru na fyddai neb yn dadlau yn ei gylch. Yn wir, roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i basio Mesurau yn ein maniffesto diwethaf i fynd i'r afael â'r achosion cyffredin o ddefnyddio alcohol yn amhriodol.
Fodd bynnag, yn ystod yr holl gamau pwyllgor a Chyfnod 3, rydych chi wedi methu â chreu argraff dda, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda'ch rhesymeg dros wrthod sicrhau y ceir mwy o eglurder o ran y Bil, a mesuro clir o fewn y Bil hwn. Rydych chi wedi gwrthod rhoi lleiafswm pris yr uned ar wyneb y Bil. Nid oes man cychwyn statudol, ac felly gellir ystyried y Bil yn ddarn anghyflawn o ddeddfwriaeth. Mae'n gadael gweithgynhyrchwyr ar goll, busnes mewn penbleth ac nid yw'n gwneud dim i dawelu meddyliau pobl gyffredin nad ydych yn dymuno eu cosbi, gyda chanlyniadau dinistriol i'r rhai ar incwm isel sydd â phob hawl i fwynhau alcohol gymaint â'r rhai y bydd yn teimlo llai o effaith ar eu waledi.
Yn ystod trafodaethau Senedd yr Alban pryd y casglwyd tystiolaeth, clywyd tystiolaeth gref y bydd yfwyr tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan isafswm pris fesul uned, a mynegwyd pryderon yn ein sesiynau tystiolaeth ninnau i'r un perwyl. Gan aros gyda'r Bil yn yr Alban, mae'n ymddangos yn rhyfeddol i mi eich bod yn fodlon aros i weld sut y byddai'r her farnwrol yn datblygu ond nad ydych yn fodlon aros a dysgu o brofiad yr Alban wrth weithredu'r ddeddfwriaeth newydd hon. Byddai hynny yn sicr wedi bod yn ddefnyddiol, o ystyried y llu o ganlyniadau anfwriadol a allai ddeillio o'r Bil hwn, megis materion masnach traws-ffiniol. Yn wahanol i'r Alban, yng Nghymru mae ein ffin ni â Lloegr yn fandyllog, yn hir ac yn drwchus ei phoblogaeth, gyda lefelau uchel o draffig trawsffiniol, ond gwthiwyd y pryderon hyn o'r neilltu.
Hefyd rwyf yn dal heb gael fy argyhoeddi bod y potensial i alcohol ffug a heb ei drwyddedu gael ei smyglo wedi ei archwilio'n iawn. Ond fy mhryder mwyaf yw y gallech fod yn newid un ddibyniaeth am un arall. Mae nifer o elusennau, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio gyda'r digartref, ac eraill sy'n gweithio gydag alcoholiaeth a cham-ddefnyddio sylweddau, wedi amlygu peryglon defnyddio isafswm pris fesul uned fel erfyn di-awch i gosbi. Mae llawer o sôn am dystiolaeth ynghylch y ddeddfwriaeth hon, ond ychydig o dystiolaeth i awgrymu bod y pryderon hyn wedi'u lleddfu neu wedi eu harchwilio'n briodol hyd yn oed. Yn wir, clywodd y Pwyllgor Iechyd dystiolaeth gan ddefnyddwyr canolfan adfer ar gyfer alcohol a ddywedodd y gallai prisiau uwch wthio yfwyr tuag at sylweddau eraill, mwy niweidiol.
Yn ogystal â hyn, rhybuddiodd Canolfan Huggard, elusen digartrefedd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd ac sy'n adnabyddus i lawer ohonoch, na fyddai codi pris cyffuriau cyfreithiol fel alcohol yn unig ddim ond yn newid un ddibyniaeth am un arall a chondemnio pobl i fywyd anobeithiol a di-syfl ar y stryd—eu geiriau hwy, nid fy rhai i. Ystyriwch yr wythnos diwethaf, gwelsom luniau o effaith y cyffur Spice ar bobl ifanc, cyffur y gellir ei brynu bellach â newid mân. Sut y gellir ein hargyhoeddi na fyddai codi prisiau alcohol yn gwthio'r bobl dlotaf mewn cymdeithas tuag at sylweddau fel Spice?
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dra amheus y bydd y gwasanaethau adsefydlu cyffuriau ac alcohol presennol yn ddigon i helpu'r rhai sydd wedi eu heffeithio. Mae dibyniaeth yn salwch meddwl, a gwyddom i gyd am y problemau ynghylch darparu gwasanaethau iechyd meddwl. Gyda'r gogledd yn colli yr olaf o'u gwelyau dadwenwyno preswyl, a'r trydydd sector yn amlygu toriadau i'r ddarpariaeth o wasanaethau mewn mannau eraill, nid yw hi'n edrych yn debygol y ceir gwasanaethau cymorth ychwanegol, ac fe hoffem i chi ein sicrhau unwaith eto y byddwch chi yn eu darparu.
Yn fyr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae hwn yn amcan polisi cadarn, ond ni fyddwn i erioed wedi cyflwyno Bil o ansawdd mor wael â hwn i lawr y Siambr. Nid yw wedi ei saernio'n iawn, a'r unig beth—yr unig beth—sydd wedi achub y Bil hwn rhag ymataliad gan y Ceidwadwyr Cymreig yw'r cymal machlud, ond gyda hwnnw yn oed, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n rhybuddio; rydych chi wedi gwrthod galwad ar ôl galwad gan aelodau o'r wrthblaid am fonitro trylwyr o effeithiau'r Bil ar feysydd yn amrywio o effaith y Bil ar wasanaethau cymorth ar gyfer dibyniaeth, ar grwpiau oedran, i'r effaith ar y rhai sydd ar incwm isel. Nid oes ychwaith ymrwymiadau i fesur yr effeithiau ar drais domestig, ar therapi amnewid ar y nifer o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol, i enwi dim ond rhai o'r canlyniadau a nodwyd gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, ar bob cam o hynt y Bil hwn.
Ond bydd y cymal machlud hwn yn cael eu ei adolygu a phleidleisir arno yn y dyfodol gan Gynulliad yr adeg honno, a bydd y Cynulliad hwnnw, yr Aelodau hynny, yn eich beirniadu'n llym os na fyddwch yn casglu tystiolaeth gredadwy a chyson, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a fyddai'n caniatâu craffu priodol a barn gadarn wrth adolygu Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).
Bil iechyd y cyhoedd ydy hwn. Mae gwarchod, hybu a gwella iechyd y cyhoedd, siawns, yn un o’n prif ddyletswyddau ni. Mae arfau yn y frwydr yn erbyn smygu yn rhai mae pobl yn disgwyl i ni eu defnyddio erbyn hyn, ac maen nhw'n cefnogi hynny. Mae’n anodd dychmygu, erbyn hyn, gwrthwynebiad i waharddiad ar ysmygu dan do erbyn hyn, ac nid oedd gweithredu y Ddeddf honno yn anodd achos mi dderbyniodd pobl beth oedd y pwrpas—mae mwg ail law yn ddrwg i chi, ac mae pobl yn gwybod hynny.
Nid ydym ni cweit yn yr un lle efo'r Bil yma eto. Mae yna amheuon, a waeth i ni beidio ag anwybyddu rheini, ynglŷn â pham ein bod ni yn gwneud hyn, pa mor effeithiol fydd hyn, ac nid ydy'r dystiolaeth gennym ni yn llawn. Ond mae'r dystiolaeth yn gryf bod defnyddio cymhellion ariannol—hynny ydy, newid prisiau diodydd—yn effeithio ar faint mae pobl yn ei yfed, ac rydw i'n cefnogi hynny fel mater o egwyddor, ac mae o wedi bod yn rhan o faniffesto Plaid Cymru ers rhai blynyddoedd.
Trethi y byddwn ni'n dewis eu defnyddio, fel rydw i wedi'i ddweud o'r blaen, ond nid ydy'r pwerau gennym ni. Rydw i'n gobeithio y byddan nhw ryw ddydd, ond, yn absenoldeb hynny, mae gosod isafbris yr uned yn opsiwn sydd ar gael i ni. Felly, ar ôl llwyddo i gryfhau'r Bil gwreiddiol mewn sawl ffordd yn ei daith drwy'r Cynulliad, mi bleidleisiwn ni o blaid y Bil yma heddiw iddo ddod yn Ddeddf. Rydym ni wedi'i gryfhau o mewn sawl ffordd drwy ddylanwadu ar y sgrwtini fydd yna o'r Ddeddf yma gan y Cynulliad i werthuso ei effeithlonrwydd.
Mae'n hanfodol rŵan bod y Llywodraeth yn dod â thystiolaeth gwbl glir i ni ynglŷn â lefel briodol yr isafbris, ac rydw i'n gresynu bod rhuthr taith y Mesur hwn wedi methu â chaniatáu’r math o sgrwtini y byddwn i wedi dymuno ei gael ar y pris hwnnw, ond mi fydd yna gyfle eto drwy'r rheoliadau i ni allu edrych ar y dystiolaeth honno, ac mi fydd mesur a gwerthuso yn hanfodol er mwyn i ni ddod â phobl Cymru efo ni ar y daith. Rydym ni hefyd wedi mynnu bod yna, ar wyneb y Bil, ymrwymiad i ddysgu ac addysgu pobl ynglŷn â pham bod y ddeddfwriaeth yma yn gallu bod yn rhan o'r swît o arfau sydd gennym ni i helpu ag iechyd y cyhoedd.
Mae yna wendid yma yn y Ddeddf, ac rydw i'n gresynu eto bod y Llywodraeth wedi methu â chefnogi hynny, i edrych ar sut i atal elwa ar y Ddeddf yma wrth i fân-werthwyr orfod gwerthu diodydd am brisiau uwch. Mi fyddwn ni wedi dymuno gweld rhywbeth mewn deddfwriaeth a fyddai'n sicrhau bod yna arian yn dod yn sgil y ddeddfwriaeth yma er mwyn gallu cael ei wario ar daclo camddefnydd alcohol a rhoi triniaeth i'r rheini sydd yn camddefnyddio ac yn goryfed. Mi fyddwn ni'n gorfod edrych rŵan ar lefi wirfoddol, ond rydw i yn credu bod yna gyfle wedi cael ei golli yma, ac, yn sicr, mi fyddaf i yn y dyfodol, wrth i ni sgrwtineiddio a chwilio am ffyrdd i gryfhau hyn, yn chwilio am ffyrdd i sicrhau nad oes yna elwa yn digwydd.
Rydym ni wedi clywed droeon bryderon y byddai pobl ar incwm is yn cael eu taro'n annheg, ac rydw i wedi meddwl llawer iawn am hyn. Wrth gwrs, mae'n sgandal mai pobl incwm is sydd fwyaf tebyg o ddioddef salwch yn deillio o gamddefnydd alcohol: mae'n enghraifft o'r annhegwch cymdeithasol, yr anghysondeb mewn cyfleon y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw drwy ystod eang o fentrau polisi. Ond beth am yr effaith ar bobl sy'n goryfed rŵan, yr ofnau y bydd yfwyr cymedrol ar incwm is yn dioddef, a hynny'n annheg o ran y gost ariannol? Rydw i'n gobeithio, drwy'r rhaglen o addysgu a ddaw law yn llaw efo'r Ddeddf yma, y bydd pobl—mwy a mwy o bobl, dros amser—yn gweld bod modd iddyn nhw addasu eu harferion yfed mewn ffordd sydd yn golygu na fydd cosb ariannol. Rydw i'n gobeithio y bydd diwydiant yn ymateb drwy ostwng cynnwys alcohol, er enghraifft. Mi all bobl yfed diod efo cynnwys is o alcohol neu yfed rhywfaint yn llai. Oherwydd mae yna neges rŵan drwy'r darn yma o ddeddfwriaeth na allwn ni ystyried alcohol fel rhywbeth benign.
Ond, yn bennaf oll, gadewch i ni weld hwn fel mesur ar gyfer ein plant ni. Rydw i'n gobeithio y bydd y Ddeddf yma yn arf a all arwain at lai o bobl ifanc Cymru yn dechrau goryfed, yn y modd mae rheolau llym ym maes ysmygu wedi arwain, heb os, at ostyngiad yn nifer ysmygwyr ifanc. Iechyd Cymry'r dyfodol sydd wirioneddol yn y fantol yn fan hyn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i’r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy, unwaith eto, ddiolch i'r Aelodau nid yn unig am eu cyfraniadau i'r ddadl, ond am graffu ar y Bil hefyd. Ac, er fy mod yn deall rhai o'r pryderon y mae Angela Burns wedi eu crybwyll heddiw, mae natur y pryderon hynny yn wahanol i'r sgyrsiau yr ydym ni wedi'u cael, ond, i fod yn deg, mae hi wedi crybwyll nifer o bryderon yn ystod hynt y Bil, yn y Pwyllgor ac ynghylch y Bil hefyd. Felly, dydyn nhw ddim yn bryderon newydd, ac rwy'n hapus i gydnabod hynny.
Mae angen gwneud rhywbeth i ddarbwyllo'r Aelodau ein bod yn gwrando ar yr hyn sy'n digwydd, nid yn unig pasio Bil yn seiliedig ar ymddiriedaeth, ond wedyn gweithredu yn y modd hwnnw ar ôl hynny. A dyna pam, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, fod gennym ni gynllun gwerthuso. Bydd angen inni wrando. Rydym ni'n hapus i rannu gwybodaeth a gweithio gyda'r pwyllgor, a fydd yn parhau i graffu ar yr hyn sy'n digwydd, yn ogystal ag ar y cymal machlud. Oherwydd, wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod hwn yn ddarn gwirioneddol newydd o ddeddfwriaeth a bydd angen sicrwydd arnom ni bod tystiolaeth ei fod wedi gwneud y gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd y wlad y credwn y bydd yn ei wneud. Ond nid wyf yn derbyn yr awgrym a wnaed bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth frys. Ymgynghorwyd ar y mater hwn yn gyntaf yn 2014, a chraffwyd arno'n drwyadl ac yn briodol yn ystod ei amser yn y Cynulliad.
Wrth gwrs, mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion i gymryd camau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gychwyn y ddeddfwriaeth, ac mae hynny'n cynnwys hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r peryglon iechyd sydd ynghlwm ag yfed gormod o alcohol a sut mae'r Bil a'r isafbris uned yn bwriadu lleihau hynny. Dyna pam yr oeddwn yn falch o weithio gyda Rhun ap Iorwerth i gyflwyno gwelliannau a gefnogwyd gennym ni yng Nghyfnod 3 i gynnwys y darpariaethau hynny yn y Bil. Ac rwyf hefyd eisiau cydnabod bod yr ymrwymiad i isafbris uned wrth gwrs, wedi ymddangos yn nau faniffesto diwethaf Plaid Cymru.
Ond hoffwn i orffen drwy ail-bwysleisio na fydd y ddeddfwriaeth hon yn sefyll ar ei phen ei hun. Mae'r ddeddfwriaeth yn mynd i'r afael mewn ffordd benodol â phroblem wirioneddol ac amlwg iawn yng Nghymru heddiw, a bydd amryw o gamau ychwanegol yn ei ategu er mwyn cefnogi'r bobl hynny sydd mewn angen, yn arbennig y meysydd hynny sy'n rhan ehangach o strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru. Rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed ynglŷn â sut mae angen cefnogi'r bobl y gobeithiwn y bydd mwy ohonynt yn ceisio cymorth. Ond mae'r Bil hwn yn ymdrin â'r realiti bod gan Gymru, fel cynifer o wledydd gorllewinol eraill, broblem gydag alcohol rhad a chryf sydd ar gael yn rhwydd. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ein helpu ni i wneud cyfraniad pwysig i fynd i'r afael â'r mater hwn a gwella iechyd y cyhoedd, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau bleidleisio drosti heddiw.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, rydw i'n gohirio’r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.