Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gynnig y cynnig ac agor dadl Cyfnod 4 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
Rydym wrth gwrs wedi gweithio ar y Bil hwn dros nifer o flynyddoedd. Buom yn ymgynghori gyntaf ar isafswm pris ar gyfer alcohol yn 2014, yn rhan o Bapur Gwyn iechyd y cyhoedd a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'm cydweithwyr gweinidogol Mark Drakeford a Rebecca Evans am eu gwaith yn llunio a datblygu'r ddeddfwriaeth newydd a phwysig hon. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am eu cefnogaeth ac am y gwaith craffu sydd wedi digwydd yn ystod hynt y Bil. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r tri phwyllgor—Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—am eu gwaith craffu. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhanddeiliaid allanol am eu hymgysylltiad parhaus ers cyflwyno'r Bil fis Hydref diwethaf, ond hefyd o ran eu cyfraniadau blaenorol, yn cynnwys eu hymatebion i'r ymgynghoriad ar Fil drafft yn 2015 dan fy arweiniad i, fel y Dirprwy Weinidog ar y pryd.
Mae'r Mesur hwn yn ymwneud yn benodol â diogelu bywyd ac iechyd. Mae'n darparu ar gyfer isafswm pris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru a bydd yn ei gwneud hi'n drosedd i fanwerthwyr safleoedd cymwys werthu neu gyflenwi alcohol yn rhatach na'r pris hwnnw. Cyfrifir yr isafswm pris ar gyfer alcohol yng Nghymru drwy luosi isafswm pris uned a bennir mewn rheoliadau, gyda chryfder canran yr alcohol a'i gyfaint. Ni fydd yn cynyddu pris pob diod alcoholig, dim ond y rhai a werthir ar hyn o bryd o dan y pris isaf perthnasol.
Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn gosod cyfres o droseddau a chosbau yn ymwneud â'r system newydd. Mae'n rhoi pwerau a dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i orfodi'r system pris isaf.
Bu galw ers tro am i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i'r afael â'r niwed i iechyd a'r difrod a achosir wrth yfed gormod o alcohol, ac mae'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud hynny yn union. Oherwydd o ran faint sy'n cael ei yfed, gwyddom fod pris alcohol yn bwysig. Gan ddefnyddio'r pris fel arf yn y modd hwn, gallwn dargedu a lleihau faint o alcohol sy'n cael ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol, a lleihau'r effaith ar yfwyr cymedrol. Bydd hyn yn helpu i wella nifer o ganlyniadau iechyd allweddol, gan gynnwys lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a'r nifer o bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd alcohol. A'r fformiwla sydd ar wyneb y Bil sy'n ein galluogi ni i dargedu alcohol rhad sy'n gryf gyda chyfaint uchel—y math o alcohol a yfir yn anghymesur gan yfwyr peryglus a niweidiol. Mae'n werth nodi mai 28 y cant o yfwyr sy'n yfwyr peryglus a niweidiol, yn ôl ymchwil a gynhaliwyd eleni gan Brifysgol Sheffield, ond maen nhw'n yfed 75 y cant o'r holl alcohol sy'n cael ei werthu.
Yn ystod hynt y Bil hwn, mae llawer wedi nodi data am niweidiau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, ac mae bob amser yn brofiad annifyr darllen data o'r fath, ac felly y dylai hi fod. Rwyf am ailadrodd rhai o'r ystadegau yn y fan yma heddiw. Bu dros 500 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru y llynedd yn unig ac aeth dros 54,000 o bobl i'r ysbyty oherwydd alcohol y llynedd yn unig. Amcangyfrifir bod costau gofal iechyd sy'n cael eu priodoli i alcohol yn £159 miliwn ar gyfer y llynedd yn unig. Ond problem sy'n fwy o lawer yw'r dinistr a ddaw yn sgil y ffigurau hynny—y teuluoedd, y cymunedau a'r canlyniadau i staff y GIG a'r gwasanaethau cynnal, wrth iddyn nhw ymdopi bob dydd yn sgil marwolaethau, afiechyd a niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle i ni wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae'n rhoi cyfle i ni wneud mwy i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ac, yn y pen draw, yn rhoi cyfle i ni wneud mwy i geisio achub bywydau. Ers i ni gyflwyno'r Bil i'r Cynulliad fis Hydref diwethaf, rydym ni wedi clywed gan amrywiaeth o wahanol arbenigwyr iechyd y cyhoedd a darparwyr gwasanaethau. Mae llawer ohonynt wedi cydnabod y gwahaniaeth y gallai'r ddeddfwriaeth hon ei wneud.
Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru:
Ceir tystiolaeth gref, ledled y DU ac yn rhyngwladol, y byddai cyflwyno isafswm pris uned yng Nghymru yn arwain at welliannau sylweddol i iechyd a lles y boblogaeth.
Ac mewn tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dadleuodd cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
mae isafswm pris fesul uned yn ddarn gwbl hanfodol o'r jig-so; a hebddo, ni fyddai llawer o'r ymyraethau eraill a ddarperir gennym a'r gwaith a wnawn yn cyflawni'r buddion yn llawn.
Mae Alcohol Research UK wedi nodi y bydd buddion yn cronni mwy mewn cymunedau tlotach yn... mae'r cymunedau hynny yn llai cydnerth o safbwynt problemau alcohol.
Wedi dweud hynny, nid oes unrhyw amheuaeth bod y Bil hwn yn wahanol ac yn arbrofol. Dim ond yr Alban sydd wedi cyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol yn y dull hwn, a daeth eu deddfwriaeth ar isafswm pris i rym ar 1 Mai eleni. Natur arbrofol y ddeddfwriaeth hon yw'r rheswm i ni gynnwys cymal machlud a darpariaethau i adolygu yn y Bil, ac mae'r darpariaethau hynny wedi'u cymeradwyo'n eang. Ond hoffwn achub ar y cyfle heddiw i ailddatgan y bydd darpariaethau i adolygu yn y ddeddfwriaeth yn seiliedig ar bum mlynedd o werthuso cadarn, a byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i ni ddatblygu'r gwaith hwnnw.
Rwyf hefyd yn bwriadu ymgynghori ynghylch lefel arfaethedig yr isafswm pris uned cyn gynted â phosibl ac, unwaith eto, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ein cynlluniau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn a'r amserlen sy'n gysylltiedig â hynny.