Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 19 Mehefin 2018.
Nid ydym ni yn y Siambr hon, Llywydd, y prynhawn yma i drafod y penderfyniad hwnnw. Fel yr wyf i wedi dweud bob amser, ein cyfrifoldeb ni yw canolbwyntio ein hymdrechion ar ddarparu'r math cywir o Brexit, nid ar ddadlau dros y ffaith bod Brexit yn bodoli. Felly, y prynhawn yma, Llywydd, hoffwn agor y ddadl hon drwy drafod y math cywir o Brexit ar gyfer Cymru.
Rydym wedi treulio llawer o amser yn y Siambr hon ac mewn negodiadau rhynglywodraethol manwl yn trafod materion cyfansoddiadol i wneud yn siŵr bod y Bil mewn gwirionedd yn cydnabod cyd-lywodraethu ac yn parchu datganoli. Er y bu hynny'n hanfodol bwysig, efallai nad hwn oedd y mater Brexit yr oedd y bobl a gynrychiolwn yn disgwyl inni ganolbwyntio arno. Er bod materion cyfansoddiadol yn cyfareddu llawer o bobl, bydd y rhan fwyaf o bobl eisiau inni ganolbwyntio ar faterion bara menyn. Mae pobl yng Nghymru yn bryderus ynghylch a fydd cwmnïau yng Nghymru yn gwneud penderfyniadau tebyg i'r rhai a wnaeth Jaguar a Land Rover a symud cynhyrchu o'r DU yng nghanol yr ansicrwydd a grëwyd gan Lywodraeth y DU ynglŷn â Brexit. Yr hyn sydd bwysicaf yw bod sicrhau y math cywir o Brexit yn diogelu economi, swyddi a lles pobl Cymru ac, yn wir, y DU gyfan. Llywydd, mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu yn y tymor byr i'r tymor canolig, bod sicrhau'r math cywir o Brexit i gyflawni hyn yn gofyn am integreiddio agos parhaus gydag economïau ein cymdogion yn yr UE.