Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i gynnig y gwelliant yn enw Caroline Jones. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd y Llywodraeth, ar draul y trethdalwyr, ddogfen 16-tudalen sgleiniog, a aeth i bob tŷ yn y wlad, yn rhagfynegi diwedd y byd os oedd gan bobl Prydain yr hyfdra i bleidleisio o blaid hunanlywodraeth genedlaethol. Cyflwynodd David Cameron areithiau ar hyd a lled yr ynysoedd hyn yn darogan gwae, gan gymryd swyddogaeth y bachgen tew yn The Pickwick Papers, a ddywedodd,
'I wants to make your flesh creep'.
Roedd yr holl sefydliad busnes a chyfryngau, y Llywodraeth, y gwasanaeth sifil, wedi ymgysegru i geisio gorfodi pobl Prydain i bleidleisio i aros yn yr UE, ac eto pleidleisiodd 17.4 miliwn o bobl—y bleidlais ddemocrataidd fwyaf erioed yn y Deyrnas Unedig— i adael yr UE. Ac yng Nghymru, lle pleidleisiodd mwyafrif y bobl i adael, roedd y pleidleisiau ar eu huchaf yn y Cymoedd mewn seddi fel Blaenau Gwent, sy'n dal y wobr am y ganran uchaf o bleidleiswyr 'gadael' : pleidleisiodd dwy ran o dair i adael. Nawr, yma, rwyf—[torri ar draws.] Ymunaf yma â'r Prif Weinidog yn y rhan honno o'i araith lle cyfeiriodd at y trafodaethau traed moch y mae Theresa May a'i Gweinidogion wedi eu cynnal yn y ddwy flynedd diwethaf. Mae hyn yn dangos diffyg paratoi llwyr ar ran Llywodraeth y DU ar gyfer bywyd ar ôl Brexit, sydd, rwy'n credu, yn bradychu'r hyn y pleidleisiodd yr 17.4 miliwn o bobl hynny o'i blaid. Mae Theresa May yn un o'r bobl hynny y mae ei amhendantrwydd yn derfynol oherwydd mae'r Llywodraeth yn gogr-droi ddydd ar ôl dydd, fel y disgrifiodd Prif Weinidog Cymru yn huawdl. Ni feddyliais y byddwn yn dweud hyn am neb, ond mewn gwirionedd mae Theresa May yn gwneud i John Major edrych yn batrwm o bendantrwydd. Ar ddiwedd dwy flynedd, bron, ers inni gael y bleidlais honno, y canlyniad yw ein bod ar fin dod yn ddim byd ond Aelod heb bleidlais o'r UE, yn ôl pob tebyg.
Hoffwn i gyfeirio at erthygl a gyhoeddwyd ychydig ddyddiau yn ôl gan Daniel Hannan, Aelod Ceidwadol o Senedd Ewrop, pan ddywedodd fod y Deyrnas Unedig yn symud tuag at gyfnod pontio penagored a fydd yn gadael bron popeth fel y mae. Bydd Brwsel yn parhau i redeg ein hamaethyddiaeth, ein pysgodfeydd, ein masnach dramor, ein deddfau cyflogaeth. Byddwn yn parhau i anfon ein miliynau ar draws y sianel. Bydd ein cyfreithiau yn parhau'n ddarostyngedig i feirniaid Ewrop. Dim ond un peth pendant fydd yn newid: Byddwn yn colli ein cynrychiolaeth yn sefydliadau'r UE a, gyda hynny, ein gallu i atal cyfreithiau newydd niweidiol. Pam mae Prydain, pumed economi a phedwerydd grym milwrol mwya'r byd, yn ystyried ffurf o gaethwasiaeth na fyddai unrhyw un arall o gymdogion yr UE—Albania na'r Wcráin, heb sôn am Norwy—yn breuddwydio ei derbyn? Ai anfedrusrwydd pur yw hyn, neu a yw rhai o'n swyddogion yn eiddgar i gael hynny?
Rwy'n credu mai'r ateb i'r cwestiynau hynny yw 'y ddau'. Ildiaf.