Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n eironig eich bod yn dyfynnu yn ôl i ni ein bod yn mynd i weld y sefyllfa waethaf bosib, oherwydd dyna'n union oedd rhybudd yr ymgyrch 'aros', ond fe'n sicrhawyd gennych chi a Nigel Farage y byddai hyn yn hawdd—y byddid yn datrys yr holl gytundebau masnach hyn o fewn 24 awr. Dywedasom mai ffwlbri oedd hynny. Chi oedd yr un a dwyllodd pobl gyda'r rwdl-mi-ri hwnnw, a chi ddylai fod yn ymddiheuro am y twyll hwn.