Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 19 Mehefin 2018.
Nid wyf i'n siŵr a wyf yn cytuno yn llwyr. Arhoswn i weld beth fydd yn digwydd yfory gyda'r fersiwn bellach o'r broses hon. Fodd bynnag, yr hyn yr oeddwn yn cyfeirio ato oedd y syniad y gall y Prif Weinidog ddweud rhywbeth mor radical â hynny mewn gwirionedd heb unrhyw ganlyniadau. Rwy'n ymddiddori'n fawr yn hyn oherwydd rwy'n gweld pethau o safbwynt San Steffan a Chymru yn y mathau hyn o bethau weithiau, ac edrychaf ar y sefyllfa yn unol â'r syniad o sofraniaeth seneddol ac adhawlio rheolaeth a'r holl bethau eraill a ddywedodd Mr Isherwood wrthym ni. Y realiti yw bod y DU fel strwythur ac fel Llywodraeth yn y DU yn gwbl analluog i ymdrin â'r mater mwyaf mewn cyfnod o heddwch a welsom ni ers canrif. Mae'n gwbl analluog i wneud hynny. Ac mae hynny'n fy nharo i fel rhywbeth sy'n arwain at bob math o bethau dadleuol a allai ddeillio o hynny, gan gynnwys dyfodol yr undeb ei hun. Nawr, nid yw Plaid Cymru yma i amddiffyn yr undeb, ond rydym ni yma i amddiffyn ein cymunedau ac rydym ni yma i roi terfyn ar unrhyw beth yn y flwyddyn neu ddwy nesaf a fydd yn amddifadu'r cymunedau hynny o'u gallu i reoli eu dyfodol ac iddynt gael cyflwr economaidd realistig yn y dyfodol.
Hoffwn i gloi, os caf i, Llywydd, gyda dyfyniad syml, ac rwy'n credu ei fod yn adlewyrchu'n dda iawn yr hyn y mae'r Blaid Lafur wedi bod yn ei wneud dros y 18 mis diwethaf, sef:
pan gaiff llyfrau hanes eu hysgrifennu, a llwybr Brexit ei ddadansoddi, gwelir swyddogaeth Jeremy Corbyn yn un hanfodol.
Roedd hynny yn y Daily Mail. [Chwerthin.]