Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 19 Mehefin 2018.
Nid yw'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi esgor ar ateb sy'n mynd i roi i bobl Cymru a bleidleisiodd i adael yr hyn a fynnent, sef rheoli eu tynged eu hunain. Y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl oedd y strategaeth fwyaf cynhwysfawr a gyflwynwyd i ddangos beth oedd ei angen, ond mae'n amlwg nad oes gennym ni'r pwerau y byddem yn eu hoffi i reoli'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud. Felly, rydym yn awr mewn sefyllfa lle rydym ni fisoedd o'r hyn sy'n edrych fel ymadawiad anochel o'r UE.