Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 19 Mehefin 2018.
A gaf i ddechrau drwy efallai atgoffa pobl, yn anffodus, y bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019 oherwydd bydd Theresa May yn dal ei gafael ar bŵer ac yn ddi-os yn ein harwain ni allan, oherwydd mae hi wedi gwneud hynny'n gwbl glir? Ond y cwestiwn yw ar ba delerau yr ydym ni'n ymadael, a dyna'r cwestiwn mwyaf i bob un ohonom ni yn ein gyrfaoedd gwleidyddol, rwy'n credu, yn y dyfodol.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol rwyf wedi cael cyfle i weld y cymhlethdodau a'r anawsterau yr ydym ni wedi'u hwynebu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac y byddwn ni'n eu hwynebu yn y dyfodol, a'r canlyniadau posibl y bydd yn rhaid inni eu goresgyn oherwydd y cymhlethdodau hyn. A gaf i, ar y pwynt hwn, nodi ar y cofnod y gwaith rhagorol a wneir gan staff y Comisiwn sydd bob amser yn cyflwyno gwybodaeth inni fel Aelodau am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan ac yn Ewrop er mwyn i ni gael dealltwriaeth o rai o'r materion sy'n cael eu codi trwy gydol yr holl broses hon?
Ar gyfer ein cymunedau ledled Cymru, a'r DU gyfan, mae'n hanfodol ein bod yn ymadael â'r UE â'r fargen orau bosibl sydd ar gael i ni, ac, i mi, nid oes unrhyw amheuaeth na fydd bod heb unrhyw fargen ar 29 Mawrth yn drychinebus i bawb. Mae'r sïon sy'n dod o Frwsel, yn anffodus, yn ystod y dyddiau diwethaf yn nodi bod diplomyddion o 27 aelod yr UE yn paratoi i gael datganiad ar ôl cyfarfod y Cyngor yr wythnos nesaf a fydd yn mynegi'r farn bod sefyllfa o ddim bargen yn bosibilrwydd gwirioneddol erbyn hyn, yn arbennig gan fod Llywodraeth y DU wedi parhau i fethu â llunio Papur Gwyn ar ei safbwynt ar ddyfodol yr UE, ac ar unrhyw berthynas. Gobeithio eu bod yn anghywir. Rwy'n gobeithio'n daer eu bod yn anghywir ynghylch hyn, ac na fydd y datganiad hwnnw'n digwydd. Mae gormod yn y fantol i bawb gerdded i ffwrdd i reolau anhysbys Sefydliad Masnach y Byd. Gallai'r ansicrwydd hwn fod yn realiti. Ewch i ofyn i'ch busnesau yn eich etholaethau lleol os nad ydych chi'n fy nghredu i—