Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 19 Mehefin 2018.
Onid y gwir amdani yw na fu unrhyw drafodaeth ar yr undeb tollau oherwydd y sefydlwyd yr UE fel undeb tollau? Cymerwyd yn ganiataol y byddai gadael yr UE yn golygu gadael yr undeb tollau, a phan ddaeth y farchnad sengl yn rhan o'r ymgyrch, roedd yr ymgyrch 'Ymadael' ac yn enwedig Michael Gove yn gwbl glir bod pleidleisio i ymadael yn golygu ymadael â'r farchnad sengl, yn ogystal â'r undeb tollau?