Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 20 Mehefin 2018.
Diolch am eich ateb. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r prosiect i ailagor twnnel y Rhondda fel llwybr cerdded a llwybr beicio. Yn dilyn adroddiad diweddar gan Balfour Beatty, cafwyd asesiad fod 95 y cant o'r twnnel mewn cyflwr da iawn. Nawr, mae'r Asiantaeth Priffyrdd yn gyfrifol am ddiogelwch y twnnel, ond ni chaniateir iddynt ailagor y twnnel. A fyddai Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried cymryd meddiant ar y twnnel gan yr Asiantaeth Priffyrdd er mwyn bwrw ymlaen â'r cynllun?