Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 20 Mehefin 2018.
Diolch i Gareth Bennett am ei gwestiwn atodol. Mae'n llygad ei le. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy ein cytundeb cyllidebol gyda Phlaid Cymru i ariannu'r hyn a elwir yn arolwg tapio o dwnnel y Rhondda. Pan allwn ystyried canlyniad yr arolwg hwnnw—ac mae'n iawn i ddweud hefyd fod perchenogaeth ar y twnnel yn un o'r materion nesaf y byddai angen inni eu hystyried—edrychaf ymlaen at drafod yr hyn a allai fod yn bosibl nesaf gydag Aelodau o Blaid Cymru fel rhan o'n hystyriaethau cyllidebol.