Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 20 Mehefin 2018.
Croesawaf yr hyn a ddywedoch yn awr am dwnnel y Rhondda, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf weledigaeth o lwybr beicio hollol hygyrch sy'n cyrraedd pob rhan o fy etholaeth. Ar hyn o bryd, mae'n dameidiog, a dweud y lleiaf. Ac mae’r weledigaeth yn cynnwys cysylltu twnnel y Rhondda a'r dyffryn cyfagos, Blaengwynfi. Nawr, byddaf yn cyfarfod cyn bo hir â gwahanol bartïon â diddordeb o safbwynt beicio i weld beth y gellir ei wneud i droi'r weledigaeth yn realiti. Weinidog, a ydych yn cefnogi hyn? A wnewch chi gytuno i fwrw ati ar y cwestiwn o berchnogaeth ar dwnnel y Rhondda fel mater o frys, ac a fyddech chi mewn egwyddor yn barod i weithio gyda ni yn y Rhondda ar droi'r weledigaeth feicio hon yn realiti?