Buddsoddi Cyfalaf yng Nghanol De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:33, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am y wybodaeth ddiddorol iawn a ddarparwyd ganddi. Gallaf ddweud hyn, Lywydd: mae dyfodol y twnnel wedi cael sylw yn y trafodaethau a gynhaliais gyda Phlaid Cymru ynghylch y gyllideb dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gobeithio y cawn gyfle i gael rownd ychwanegol o'r trafodaethau hynny ochr yn ochr â'r broses bresennol o bennu'r gyllideb, ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod, os mai dyna'r ffordd gywir o wneud pethau, i rannu'r wybodaeth sydd gennym o ganlyniad i'r hyn a gytunwyd hyd yn hyn, ac i glywed am bosibiliadau eraill y mae'n credu y dylem fod yn ymwybodol ohonynt.FootnoteLink