Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 20 Mehefin 2018.
Lywydd, edrychaf ymlaen at ddarllen y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac os oes meysydd lle mae angen trafodaethau pellach gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod cyngor clir ar gael, byddem yn sicr yn awyddus i wneud hynny. Rwyf wedi fy nghalonogi gan nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi cyflwyno cynigion i ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol er mwyn sicrhau rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol yn ein hystâd ysgolion, fel y dymunant ei wneud—gan gynnwys Bro Morgannwg. Byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny, a lle y ceir materion technegol y mae angen mynd i'r afael â hwy i sicrhau y gall y model gyflawni ar lawr gwlad, byddem yn awyddus i gael y sgyrsiau hynny gyda hwy wrth gwrs.