Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:41, 20 Mehefin 2018

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.  

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi ynglŷn â'r defnydd arfaethedig o'r model buddsoddi cydfuddiannol, ac yn benodol mewn perthynas ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Fe fyddwch yn gwybod bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn archwilio'r defnydd o'r model buddsoddi cydfuddiannol er mwyn ariannu prosiectau cyfalaf, a band B o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn benodol.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi mynegi pryderon ynglŷn â fforddiadwyedd y model, ar sail eu profiad blaenorol gyda mentrau cyllid preifat. Mae rhai pryderon ehangach hefyd ynghylch cloi awdurdodau lleol ac ysgolion i mewn i gontractau 25 mlynedd. Yn eu plith roedd natur newidiol y cwricwlwm ysgol dros y cyfnod hwn, a fydd yn arwain, yn anochel, at anghenion newidiol ar gyfer adeiladau ysgol yn y tymor hir. Felly, mae'r holl faterion hyn yn peri pryderon, ac fel y dywedaf, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn eu harchwilio. Tybed a allech roi sylwadau ar ddatblygiad y model buddsoddi cydfuddiannol ac i ba gyfeiriad y credwch y gallwn fynd er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:42, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i Nick Ramsay am hynny a diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am eu gwaith yn archwilio'r model. Rwy'n siŵr y bydd pethau y byddwn yn awyddus i'w dysgu o'r gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud. Lywydd, gobeithiaf wneud datganiad cyn bo hir, yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â'r model buddsoddi cydfuddiannol, gan gynnwys y diddordeb mawr a fynegwyd ynddo gan y Cenhedloedd Unedig wrth archwilio'r ffyrdd y gallai ein harloesedd wrth greu'r model hwnnw fod o ddiddordeb i wledydd eraill sydd hefyd yn chwilio am ffyrdd arloesol o ehangu rhaglenni buddsoddi cyfalaf.

Mewn perthynas â band B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn benodol,  yn hytrach na mentrau cyllid preifat lle nad oes gennym fawr o ddefnydd ohonynt, credaf mai'r gyfatebiaeth gywir i awdurdodau lleol ei hystyried yw'r ffordd yr ydym, drwy ddefnyddio syniadau a ddatblygwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, wedi gallu defnyddio gallu awdurdodau lleol i wneud i bethau ddigwydd, ac yna ariannu canlyniadau refeniw hynny i'w galluogi i ddefnyddio'r gallu sydd ganddynt i fuddsoddi ym maes cyfalaf, a dyna y byddem yn awyddus i'w wneud yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

O ran y ddadl ynglŷn â chloi awdurdodau lleol i mewn i asedau na fyddant eu hangen, o bosibl, yn y tymor hir, mae hwnnw'n bwynt pwysig. Mae angen i awdurdodau lleol feddwl yn ofalus ynglŷn â'r ffordd y maent yn cyflwyno cynigion i ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol mewn perthynas ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Er enghraifft, credaf ei bod yn annhebygol y byddai ysgolion arbennig yn addas ar gyfer y model hwn, gan fod natur addysg arbennig yn newid, ac mae dwysedd y defnydd o ysgol arbennig o ran yr adeiladwaith ffisegol, yn anochel, o gofio natur y boblogaeth ddisgyblion y maent yn eu gwasanaethu, yn ddwys hefyd, ac felly bydd y model yn addas ar gyfer rhai agweddau ar yr ystâd ysgolion, ond nid pob un o reidrwydd.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:45, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe sonioch chi am y ffordd y mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn wahanol i fenter cyllid preifat; credaf fod y mater wedi peri rhywfaint o ddryswch. Ceir diffyg eglurder ynghylch natur y gwahaniaethau rhyngddo a mentrau cyllid preifat traddodiadol. Os caf roi rhai enghreifftiau: mewn menter cyllid preifat gonfensiynol—cytundeb PF1 neu PF2—ystyrir bod gwasanaethau meddal yn cynnwys arlwyo a darpariaethau glanhau fel arfer. Pa wasanaethau rydych yn rhagweld y byddant yn cael eu cynnwys, neu eu heithrio, os yw hynny'n haws, o'r model buddsoddi cydfuddiannol yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Dywedaf hyn yng ngoleuni hanesion sy'n peri pryder ynglŷn ag ysbytai mentrau cyllid preifat yn wynebu costau sylweddol er mwyn ymdrin â mân faterion cynnal a chadw, megis un ysbyty menter cyllid preifat a gafodd fil o £333 am osod bwlb golau newydd—enghraifft eithafol, ond serch hynny, dyma rai o'r pryderon sydd wedi bod yn gysylltiedig â mentrau cyllid preifat, ac sy'n ymwneud â'r model buddsoddi cydfuddiannol ar hyn o bryd hefyd.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:46, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, fe wnaf fy ngorau yn y datganiad y gobeithiaf ei gyhoeddi cyn bo hir i ailddatgan rhai o elfennau allweddol y model, fel y gall pobl eu deall yn glir. Gadewch imi grybwyll tair yng nghyswllt y cwestiwn a ofynnwyd gan Nick Ramsay: un o nodweddion allweddol y model yw ei fod yn caniatáu i'r sector preifat rannu unrhyw elw i'r partner preifat ac i gymryd hyd at 20 y cant o ecwiti mewn cynlluniau o'r fath er mwyn gwneud hynny. Mae'r model yn cael gwared ar wasanaethau meddal o gontractau—gwasanaethau meddal megis glanhau ac arlwyo—ac yn cael gwared ar offer o'r model hefyd, oherwydd y profiad y cyfeiriodd Nick Ramsay ato, ac oherwydd y gellir ariannu offer yn fwy effeithlon o gyfalaf cyhoeddus. Felly, rydym wedi ceisio dysgu gwersi o fodelau mewn mannau eraill, yn enwedig model dosbarthu nid-er-elw yr Alban, a sicrhau bod y model rydym yn ei ddyfeisio yma yng Nghymru yn dysgu'r gwersi hynny ac yn cael gwared ar y cydrannau sydd wedi bod yn arbennig o anfoddhaol mewn ffyrdd blaenorol o weithio.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:47, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n amau bod fy nghwestiynau wedi achub y blaen ar ddatganiad y gellir ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Efallai fy mod ar flaen y gad.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr o ran y gwaith rydym wedi'i wneud yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, cafwyd neges fod yna bryderon ynghylch diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ynglŷn ag union natur y model buddsoddi cydfuddiannol, ond yn amlwg, pan fyddwch yn cyhoeddi'ch datganiad, byddwch yn amlwg yn gobeithio mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn.

Mewn tystiolaeth a ddarparwyd i'r pwyllgor gan Gyngor Bro Morgannwg, eglurwyd y credid y gallai awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian y maent yn ei ddyrannu i ysgolion unigol at ddibenion gwaith cynnal a chadw er mwyn ad-dalu eu rhwymedigaethau o dan y model. Fodd bynnag, aeth cynrychiolydd Bro Morgannwg ymhellach ac esbonio na fyddai'r swm o arian y mae ysgolion yn ei dderbyn at ddibenion gwaith cynnal a chadw yn ddigon, o reidrwydd, i dalu am y taliad blynyddol hwnnw. Felly, mae hynny wedi bod yn achos pryder. O gofio angen y cynghorau i ddibynnu ar eu cyllidebau refeniw i ariannu ad-daliadau i'r model, a'r angen i gydbwyso hynny'n ofalus gydag ariannu gwasanaethau eraill, a yw'n wir fod dadl i'w chael yma dros ddarparu canllawiau cliriach i awdurdodau lleol fel y gallant, yn sicr wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol gyda'u cyllidebau, reoli'r cyllidebau hynny'n fwy effeithiol yn ogystal â sicrhau arian cyfatebol pan fo angen er mwyn llenwi unrhyw fylchau a allai ddod i'r amlwg?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:48, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, edrychaf ymlaen at ddarllen y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac os oes meysydd lle mae angen trafodaethau pellach gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod cyngor clir ar gael, byddem yn sicr yn awyddus i wneud hynny. Rwyf wedi fy nghalonogi gan nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi cyflwyno cynigion i ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol er mwyn sicrhau rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol yn ein hystâd ysgolion, fel y dymunant ei wneud—gan gynnwys Bro Morgannwg. Byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny, a lle y ceir materion technegol y mae angen mynd i'r afael â hwy i sicrhau y gall y model gyflawni ar lawr gwlad, byddem yn awyddus i gael y sgyrsiau hynny gyda hwy wrth gwrs.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Llywydd. Fel rwyf newydd ei glywed yn ystod y sesiwn yma, mae'r cronfeydd strwythurol wedi bod yn bwysig iawn i Gymru ac i economi Cymru, ac fel rhan o baratoi tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi dechrau ar ymchwiliad i'r cronfeydd strwythurol, er enghraifft, beth ddaw yn eu lle nhw: cronfa cyfoeth ar y cyd, Horizon 2020, sydd newydd gael ei grybwyll.

Yn y broses yna, rydym wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol ddod i'r pwyllgor i roi tystiolaeth ac nid oedd yn syndod i fi, ond roedd e, serch hynny, yn dipyn o sioc, mewn ffordd, i dderbyn llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud nad oedd e'n meddwl bod angen iddo ddod i’r pwyllgor. Mwy na hynny, nid yw wedi paratoi unrhyw dystiolaeth ar gyfer y pwyllgor. Nid wyf yn meddwl bod hyn yn dangos bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymwneud â phwyllgorau’r Cynulliad hwn mewn ffordd sydd yn briodol ac sydd yn barchus, ond a fedrwch chi ddweud eich hun, a ydych chi’n ymddiried yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i baratoi’r ffordd tuag at ariannu strwythurol dros bob gwlad yn y Deyrnas Gyfunol wrth inni weld y cronfeydd strwythurol yn diflannu?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:50, 20 Mehefin 2018

Wel, nid yw’n dderbyniol i mi, ac rwy’n siŵr nid yw’n dderbyniol i’r Pwyllgor Cyllid hefyd pan maen nhw’n gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol, y person yn San Steffan sy’n gyfrifol—maen nhw’n dweud—i ni yng Nghymru ac nid yw’n fodlon dod i roi tystiolaeth i’r pwyllgor.

Rwyf wedi darllen nifer o bethau sydd wedi dod i mewn i’r pwyllgor o bobl eraill, ac mae lot o dystiolaeth ddiddorol wedi dod i mewn. Gwelais i Julie Morgan a phobl eraill o flaen y pwyllgor. Rwy’n edrych ymlaen at ddod hefyd. Nid hwn yw'r tro cyntaf i’r Ysgrifennydd Gwladol gael cyfle i ddod i’r Pwyllgor Cyllid, ac nid ydy e’n fodlon gwneud hynny. Rwy’n derbyn bob tro, bob cyfle sydd gyda fi, i godi dyfodol y cronfeydd strwythurol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond nid hynny yw'r unig ffordd i wneud hynny.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:51, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Credaf mai'r drafferth yw y gallaf weld hyn fel rhan o batrwm o ymddygiad gan nifer o Weinidogion Ceidwadol bellach, sydd, yn anffodus, yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwyluso yn hytrach na'i atal—drwy amryfusedd, efallai.

Rhoddaf enghraifft arall ichi o'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Fel y gwyddoch, mae gennych gytundeb rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), ac mae'n dweud yn glir iawn y bydd Llywodraeth y DU yn ymrwymo i beidio â chyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n newid meysydd polisi i'r graddau bod y deddfwrfeydd datganoledig wedi'u hatal rhag gwneud hynny yn rhinwedd rheoliadau cymal 11. Felly, mae'r hyn rydych wedi'i ddweud wrth y Cynulliad hwn yn ystrywio hynny, os mynnwch.

Fodd bynnag, mae gwelliant a basiwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi—gwelliant Letwin, fel y'i gelwir—yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi Bil drafft sy'n cynnwys rheoliadau amgylcheddol yn Lloegr, ond nid yw'n dweud yn benodol fod hynny ar gyfer awdurdodau cyhoeddus yn Lloegr yn unig. Ac wrth gwrs, mae rheoliadau amgylcheddol yn un o'r 24 maes polisi sy'n rhan o'ch cytundeb rhynglywodraethol.

Mae Tim Lang o City, Prifysgol Llundain eisoes wedi dweud bod y cytundeb rhynglywodraethol hwn yn dangos y gall Whitehall gerdded dros Gymru. A ydych yn argyhoeddedig o hyd fod y cytundeb yn ddigon cadarn i ddiogelu buddiannau Cymru? A ydych yn argyhoeddedig o hyd nad yw gwelliant Letwin, ac ymateb Llywodraeth y DU iddo, yn dangos bod Llywodraeth San Steffan eisoes yn tanseilio'r cytundeb a'r inc prin wedi sychu arno?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:53, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, mae'r Athro Lang yn gwbl anghywir, ac nid oes ganddo unrhyw dystiolaeth i'w honiad gan nad oes unrhyw gamau wedi'u cymryd o dan y cytundeb rhynglywodraethol. Felly, ni allai ddibynnu ar unrhyw beth i gefnogi ei honiad.

O ran gwelliant Letwin, mae'r Aelod yn ymwybodol, gan fod y Prif Weinidog wedi dweud ddoe, y rhoddwyd sicrwydd penodol yn Nhŷ'r Arglwyddi fod y gwelliant yn cyfeirio at Loegr yn unig; nad yw'n tresmasu ar gymwyseddau datganoledig. Cafwyd trafodaeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn y Pwyllgor Busnes ddoe ynglŷn â'r angen i gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Byddai'r Llywodraeth wedi cyflwyno un pe bai'r Pwyllgor Busnes wedi dod i'r casgliad fod newidiadau i'r Bil yn cael effaith sylweddol ar y cyfrifoldebau sydd gennym yma. Daeth y Pwyllgor Busnes i'r casgliad nad oedd hynny'n wir, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu cryfder y sicrwydd a gawsom.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:54, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf y bydd hyn yn parhau am beth amser, a byddwn yn gweld realiti'r cytundeb wrth i bethau eraill ddod i'r amlwg. Un o'r pethau a fydd yn dod i'r amlwg heddiw yn San Steffan, wrth gwrs, yw'r bleidlais derfynol, yn fy marn i, i gynnal sofraniaeth seneddol ac i sicrhau mai'r Senedd, nid y Llywodraeth, sydd â'r gair olaf ystyrlon ar y cytundeb Brexit sy'n cael ei negodi a'i gytuno gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Ym mis Mawrth eleni, pan ofynnwyd iddo a ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael pleidlais ystyrlon o'r fath, hefyd ar y cytundeb terfynol gyda'r Undeb Ewropeaidd, atebodd y Prif Weinidog drwy ddweud, a dyfynnaf,

'Ni fyddai'n iawn mewn egwyddor i ni gael ein rhwymo gan rywbeth nad oedd gennym unrhyw rôl yn ei negodi na'i gytuno.'

Felly, beth yr awgrymwch yn awr a ddylai ddigwydd i sicrhau bod Cymru, ac felly'r Senedd hon, yn cael pleidlais gyfwerth fel y gallwn ddweud ein dweud ar y cytundeb Brexit terfynol?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:55, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas, ond nid yn hollol yn yr un ysbryd a'i dywedodd? Mae'n iawn i ddweud y byddwn yn byw effaith y cytundeb drwy'r profiad a gawn dros y misoedd nesaf, a chredwn fod y cytundeb yn diogelu sefyllfa'r Cynulliad hwn. Bydd unrhyw bwerau y cytunwn y dylid eu dal dros dro, i'w gweithredu yn erbyn llyfr rheolau'r UE hyd nes y byddwn yn cytuno ar rywbeth gwahanol, yn dod gerbron y Cynulliad hwn i'w cymeradwyo. A bydd sawl cyfle i'r Cynulliad weld a yw'r cytundeb a gyrhaeddwyd yn bodloni'r disgwyliadau hynny.

O ran y bleidlais ystyrlon, mae ail bwynt penderfynu'n dod yn sgil yr holl fusnes Brexit, gan y bydd pwynt yn dod pan fydd Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn dod i gytundeb a fydd yn nodi'r telerau ar gyfer gadael yr UE. Diben y bleidlais ystyrlon yn y Senedd yw sicrhau bod gan y Senedd drosolwg priodol ar y broses honno. Bob tro y clywais y Prif Weinidog yn siarad am hyn, mae'n cyfeirio at drosolwg Seneddau'r Deyrnas Unedig o'r broses honno, ac mae hynny'n awgrymu i mi nad yw'r safbwyntiau a fynegodd wrth y Cynulliad yn gynharach wedi newid.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae Llafur bellach yn credu, yn ôl eu gwelliant arfaethedig yr wythnos diwethaf i'r Bil ymadael â'r UE, y dylem gael mynediad llawn at farchnad fewnol yr Undeb Ewropeaidd, wedi'i ategu gan sefydliadau a rheoliadau a rennir, heb unrhyw rwystrau newydd i fasnach a safonau ac amddiffyniadau hawliau cyffredin fel gofyniad sylfaenol. Mae'n berffaith amlwg o ddull Monsieur Barnier o arwain y trafodaethau hyd yn hyn ei fod yn credu bod y farchnad sengl yn anwahanadwy a bod yn rhaid iddi gynnwys rhyddid i weithwyr symud. Prif nod negodiadau Monsieur Barnier yw annog aelod-wladwriaethau eraill yr UE i beidio â dilyn esiampl Prydain, yn hytrach na dod i gytundeb sydd er budd pobl gyffredin yn Ewrop, ac yn llai fyth ym Mhrydain.

Dywedodd Jeremy Corbyn, yn y dyddiau pan oedd yn Ewrosgeptig lai na blwyddyn yn ôl, na fyddai unrhyw weithwyr ar gyflogau gwael yn cael eu mewnforio'n gyfanwerthol o ganolbarth Ewrop o dan y Blaid Lafur er mwyn dinistrio amodau, yn enwedig yn y diwydiannau adeiladu. O gofio bod aelodaeth lawn o'r farchnad sengl yn golygu rhyddid i weithwyr symud, sut y gellir cysoni'r ddau ddatganiad?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:58, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Cyfeiriaf yr Aelod at y dogfennau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru: yn wreiddiol, y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ar y cyd gyda Phlaid Cymru ac yna'r papur dilynol a gyhoeddwyd gennym ar degwch o ran symudiad pobl, sy'n ateb y cwestiwn a ofynnodd ar ei ben, yn fy marn i, gan ein bod wedi nodi cyfres o gynigion yn y papur hwnnw y credwn y gellid eu cynnwys o dan ymbarél eang rhyddid i symud.

Un o'r mythau sydd ynghlwm wrth y ddadl ynghylch yr UE yw bod rhyw fath o safonau unigol ynghylch beth y mae'r gwahanol fathau hyn o ryddid—y pedwar rhyddid—yn ei olygu mewn gwirionedd. Dehonglir y rhyddid i symud yn wahanol iawn mewn gwahanol aelod-wladwriaethau o un rhan o'r Undeb Ewropeaidd i'r llall. Rydym wedi nodi cyfres o awgrymiadau y credwn y byddent yn ein caniatáu i aros o dan yr ymbarél eang hwnnw, ond a fyddai'n cael yr effaith y cyfeiriodd Jeremy Corbyn ati hefyd—na ddylai'r rhyddid i symud ddod yn rhyddid i ecsbloetio. Ac nid oes unrhyw amheuaeth fod rhai o'r bobl a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud hynny am eu bod yn ofni bod y rhyddid i symud wedi dod yn ddyfais i gadw cyflogau i lawr a bod hawliau cyfreithiol pobl yn cael eu tanseilio o ganlyniad i gludo pobl dros gyfandir Ewrop i gael eu hecsbloetio yma. Nodwyd cyfres o gynigion gennym i sicrhau nad yw hynny'n digwydd, a chyda'i gilydd, maent yn rhoi'r atebion i'r cwestiwn a ofynnodd yr Aelod.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:59, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, nid yw gofyn am rywbeth nad yw ar gael yn ateb i'r cwestiwn. Fe ŵyr cystal â minnau—rhaid bod rhywun mor wybodus a soffistigedig â'r Ysgrifennydd cyllid yn gwybod—na allai'r Comisiwn Ewropeaidd ganiatáu i'r Deyrnas Unedig wyro oddi wrth reoliadau'r UE ar ryddid i symud yn yr un modd ag y mae'r Blaid Lafur wedi'i honni. Yn wir, gelwir hyn yn 'cakeism' gan y Comisiwn Ewropeaidd—ei chael hi bob ffordd. Mae ffynhonnell agos at Guy Verhofstadt, prif negodydd Senedd Ewrop ar y materion hyn, yn dweud bellach fod

Llafur cyn waethed â'r Torïaid, yn gwerthu ungorn er mwyn papuro dros eu hymraniadau mewnol.

Onid yw'n amlwg mai polisi Llafur bellach yw y byddwn yn derbyn rheolau mewn perthynas â nwyddau a dyfarniadau llysoedd Ewrop? Mae hynny'n golygu peidio ag adfer rheolaeth dros ein cyfreithiau. Mae credu mewn ymochredd llawn yn golygu dim cytundebau masnach rydd â gweddill y byd sy'n golygu nad ydym yn adfer rheolaeth dros ein polisi llafur, ac mae cyfaddawd ar ryddid i symud yn golygu nad ydym yn adfer rheolaeth dros ein ffiniau. Bydd hyn yn costio, hefyd; yn union fel Norwy, bydd yn rhaid inni dalu i'r gyllideb Ewropeaidd, sy'n golygu peidio ag adfer rheolaeth dros ein harian.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:00, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, nid wyf erioed wedi rhannu barn yr Aelod fod y Comisiwn yn rhyw fath o rym milain sy'n ceisio ein niweidio bob amser. Yn fy mhrofiad i o fynd i Frwsel a siarad â phobl yno, credaf ein bod yn ffodus fod gennym grŵp o bobl ar ochr arall y bwrdd negodi sy'n cydnabod ei bod yn fuddiol iddynt hwy ac i ninnau gytuno ar gytundeb Brexit sy'n gwneud cyn lleied o niwed â phosibl i'w heconomïau ac i economi'r Deyrnas Unedig. Credaf mai yn yr ysbryd hwnnw y cynhelir y negodiadau. Polisi'r Blaid Lafur yng Nghymru yw'r polisi a nodir yn ein Papur Gwyn gwreiddiol, sef ymagwedd tuag at Brexit sy'n mynnu mai anghenion ein heconomi, anghenion swyddi, anghenion pobl sy'n gweithio, a ddylai fod ar frig rhestr negodi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae'r holl sôn am adfer rheolaeth, o fod yn gyfrifol am ein cyfreithiau, yr holl bethau hynny, yn ein harwain at gyfres o linellau coch a fydd yn golygu, yn y pen draw, fod Llywodraeth y DU wedi llwyddo i wneud rhywbeth rhyfeddol—bydd wedi llwyddo i niweidio ein heconomi ac i sicrhau bod ein llais gwleidyddol wrth wneud penderfyniadau wedi'i leihau. Mae ffordd wahanol i'w chael, ffordd well, ac mae'r Blaid Lafur wedi nodi'r ffordd honno.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:02, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Gwn nad yw'r Blaid Lafur yn credu mewn llinellau coch; maent yn credu mewn codi baneri gwyn ar y materion hyn—baner wen i ildio i'r UE ar yr holl faterion pwysig. Mae'r Blaid Lafur yn blaid ryng-genedlaethol, ac maent yn gyson yn nodi eu rhinweddau mewn perthynas â buddiannau gwledydd tlawd mewn rhannau eraill o'r byd am resymau rwyf innau, i raddau helaeth, yn cytuno â hwy. Mae undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd yn sgêm ddiffyndollol sy'n amharu ar ein masnach gyda gweddill y byd, yn dal y bobl dlotaf yn ôl dramor, gan godi prisiau a chostau i'r bobl dlotaf gartref. Mae hynny, felly, yn dangos mai nonsens yw'r datganiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â rhoi buddiannau pobl sy'n gweithio, boed gartref neu dramor, ar frig yr agenda.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:03, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, mae'n sicr er budd pobl sy'n gweithio ledled Cymru, boed yn y diwydiannau gweithgynhyrchu, lle mae nwyddau'n croesi ffiniau'r Deyrnas Unedig a rhannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd bob dydd, neu yn ein sectorau bwyd ac amaethyddiaeth, lle mae allforwyr yn dibynnu ar allu cael eu nwyddau i'r man lle y cânt eu bwyta yn ffres—mae'n sicr er budd busnesau Cymru a phobl sy'n gweithio yng Nghymru fod gennym fasnach rydd a diffrithiant. Dyna mae'r undeb tollau yn ei sicrhau, a phan fydd gennym rwystrau ar y ffin, a busnesau yng Nghymru na allant fasnachu mwyach o ganlyniad i'r prosbectws y mae'n ei nodi, fe'u dargyfeiriwn at yr Aelod er mwyn iddo ef allu egluro'r sefyllfa y mae wedi ein harwain iddi.