Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 20 Mehefin 2018.
Wel, Lywydd, mae'r Athro Lang yn gwbl anghywir, ac nid oes ganddo unrhyw dystiolaeth i'w honiad gan nad oes unrhyw gamau wedi'u cymryd o dan y cytundeb rhynglywodraethol. Felly, ni allai ddibynnu ar unrhyw beth i gefnogi ei honiad.
O ran gwelliant Letwin, mae'r Aelod yn ymwybodol, gan fod y Prif Weinidog wedi dweud ddoe, y rhoddwyd sicrwydd penodol yn Nhŷ'r Arglwyddi fod y gwelliant yn cyfeirio at Loegr yn unig; nad yw'n tresmasu ar gymwyseddau datganoledig. Cafwyd trafodaeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn y Pwyllgor Busnes ddoe ynglŷn â'r angen i gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Byddai'r Llywodraeth wedi cyflwyno un pe bai'r Pwyllgor Busnes wedi dod i'r casgliad fod newidiadau i'r Bil yn cael effaith sylweddol ar y cyfrifoldebau sydd gennym yma. Daeth y Pwyllgor Busnes i'r casgliad nad oedd hynny'n wir, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu cryfder y sicrwydd a gawsom.