Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 20 Mehefin 2018.
Diolch am eich ateb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus yn ystyried ad-drefnu llywodraeth leol, a chyfrifwyd y bydd cost lleihau o 22 i 10 prif gyngor rhwng £200 miliwn a £400 miliwn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ychwanegu'r swm hwnnw at gyllideb refeniw llywodraeth leol i dalu am y broses o ad-drefnu, neu a fyddai'n rhaid talu am ad-drefnu drwy gyfyngu ar wasanaethau?