Cyllideb Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:18, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rwy'n siŵr y bydd cost ad-drefnu llywodraeth leol wedi'i hailadrodd droeon yn ystod y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyrdd. Newydd ddod i ben y mae'r cyfnod ymgynghori hwnnw, ac mae'r casgliadau'n dal i gael eu prosesu. Ond mae Mike Hedges yn iawn i awgrymu, fel cyfranwyr blaenorol y prynhawn yma, y bydd goblygiadau ariannol y Papur Gwyrdd a'r cynigion a fydd yn deillio ohono yn sicr o ddiddordeb uniongyrchol i mi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid.