Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 20 Mehefin 2018.
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, ddydd Mawrth diwethaf, mynychais y grŵp trawsbleidiol ar fasnachu pobl. Roedd yn braf nodi'r cynnydd sy'n cael ei wneud wrth frwydro yn erbyn y fasnach ddieflig hon. Er ein bod yn anghytuno ynglŷn ag achosion y pethau hyn, mae pob un ohonom o'r farn fod y pla hwn ar ein cymdeithas, a'r trallod y mae'n ei achosi i bobl, yn wrthun. Arweinydd y tŷ, a allwch roi sicrwydd inni y bydd eich Llywodraeth yn parhau'n ymrwymedig i roi diwedd ar gaethwasiaeth o bob math yng Nghymru?