Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:26, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Gallaf, yn sicr. Ni yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y DU i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth, fel y gŵyr David Rowlands yn iawn. Rydym wedi sefydlu grŵp arwain atal caethwasiaeth Cymru i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru, ac i ddarparu'r cymorth gorau posibl i oroeswyr. Rydym wrthi'n rhannu'r dysgu o Gymru gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU a chyda chomisiynydd atal caethwasiaeth annibynnol y DU, ac rydym yn dechrau ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ein gwaith ar yr agenda hon.