Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 20 Mehefin 2018.
Nac ydw. Rydym yn gweithio'n galed iawn yn wir i sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael i bobl sy'n dianc rhag trais domestig neu unrhyw fath o drais rhywiol ledled Cymru yn addas i'r diben. Fel y gŵyr David Rowlands, mae'r adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywiol ar y gweill ar hyn o bryd. Byddaf yn ei drafod fore dydd Iau yr wythnos hon. Un o amcanion yr adolygiad, a'r Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, yw cynnal asesiad priodol o anghenion ledled Cymru fel y gallwn ymateb yn briodol i'r angen a sicrhau bod ein hadnoddau wedi'u targedu'n dda.