Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 20 Mehefin 2018.
Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw hefyd. Rhag ofn eich bod yn cael symptomau amddifadu, arweinydd y tŷ, mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â seilwaith digidol. Felly, o gofio bod nifer o gymunedau o hyd, megis pentref Llangenau ym Mhowys, yn methu elwa ar y broses o gyflwyno Cyflymu Cymru, a yw arweinydd y tŷ mewn sefyllfa i nodi sut y bydd y cynllun cyflawni newydd yn cael ei lunio i gynnwys y rheini na chawsant eu cysylltu yn yr hyn y mae'n rhaid inni ddweud ei fod yn gam cyntaf llwyddiannus iawn o ran cyflwyno?