Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 20 Mehefin 2018.
Un ffordd o ddileu rhagfarn ydy drwy ganiatáu i ffoaduriaid fod yn rhan weithredol o'r cymunedau a'r byd gwaith o'u cwmpas nhw. Ac i wneud hynny, wrth gwrs, mae'n rhaid iddyn nhw fedru magu sgiliau rhugl yn nwy iaith ein gwlad ni—Cymraeg a Saesneg. Mae teuluoedd o Syria sydd wedi cael eu croesawu i fy ardal i wedi cael cyfle i symud ymlaen yn gyflym i gaffael sgiliau iaith, ac yn ddiweddar, fe ges i sgwrs yn Gymraeg efo dwy ffoadur ifanc, yn ogystal â'u clywed nhw'n siarad Saesneg yn rhugl hefyd. Ond mae dileu y grant MEAG, sef arian penodol ar gyfer ymateb i anghenion disgyblion o grwpiau lleiafrifol, yn mynd i arafu'r broses o ddysgu ieithoedd i ffoaduriaid, a'i gwneud hi'n anodd iawn i athrawon roi sylw penodol i hyn. A wnewch chi ymrwymo i geisio darbwyllo'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i ailgyflwyno'r grant yma? Mi wnes i godi'r pwynt yma ddoe a ches i ddim ateb.