Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 20 Mehefin 2018.
Ie, rhannaf arswyd Siân Gwenllian—ymateb ofnadwy iddo. Cefais broblem debyg gyda fy nghyfrif Twitter fy hun, ac rwy'n dilyn Siân Gwenllian ar Twitter, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r hyn y mae hi'n sôn amdano. Rhan o bwrpas y cynllun yw gwneud yn union hynny, brwydro yn erbyn ymatebion niweidiol rhagfarnllyd gan bobl nad ydynt wedi deall o gwbl beth y mae pobl o wledydd eraill yn ei gyfrannu at ddiwylliant a gwasanaeth ein gwlad. Ac fel y dywedais yn y ddadl ddoe, ac rwy'n golygu hyn yn ddiffuant, mae'n broses ddwy ffordd. Rydym yn cynorthwyo pobl sy'n ffoi rhag pob math o broblemau yn eu gwledydd hwy, ac yn eu tro, maent yn cyfoethogi ein gwlad gyda'u celfyddyd a'u diwylliant a'u bwyd a'u cymdeithas a'u sgiliau, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny.