Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 20 Mehefin 2018.
Diolch. Ddoe, fe gawsom ni ddatganiad gennych chi ar Gymru fel cenedl noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac fe wnes i ymateb i'r ddadl gan ddatgan cefnogaeth Plaid Cymru i'r nod. Fe wnes i hefyd dynnu sylw at un o'r heriau mawr, sef y rhagfarn sydd yn bodoli tuag at ffoaduriaid a cheiswyr lloches a'r wybodaeth ffug sydd yn cael ei ledaenu. Mi wnes i alw am drafodaeth adeiladol er mwyn creu newid diwylliannol. Os ydych chi'n edrych ar fy nghyfrif trydar i, fe welwch chi fod ymatebion llawn rhagfarn wedi ymddangos yn sgil fy araith i ddoe, ac, yn anffodus, mae hyn yn profi pam fod angen herio'r rhagfarn ar bob cyfle posib. Fe fydd fy mhlaid i yn parhau i ddadlau dros greu cenedl noddfa. A wnewch chi ymrwymo heddiw i roi sylw penodol i'r gweithredu sydd angen digwydd er mwyn dileu'r rhagfarn amlwg yma sydd yn bodoli?