Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 20 Mehefin 2018.
Wel, arweinydd y tŷ, rydych wedi cyhuddo'r gweithredwyr rhwydwaith symudol o fancio tir yn y gorffennol ac wedi dweud, a dyfynnaf eto, fod 'Un gweithredwr yn berchen ar Gymru'. Felly, yn hytrach na beirniadu'r gweithredwyr rhwydwaith symudol, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i ymateb yn ffafriol i Mobile UK, fel y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant ffonau symudol, sy'n galw am—a'u geiriau hwy yw'r rhain—gamau pendant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi seilwaith symudol drwy ddefnyddio'r ysgogiadau polisi datganoledig sydd ar gael i chi, ac ymrwymo i ddyddiad cyhoeddus ar gyfer cyflwyno'r diwygiadau? Tybed a wnewch chi ymrwymo i ddyddiad heddiw, a beth yw'r dyddiad hwnnw?