Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 20 Mehefin 2018.
Wel, fel rwyf newydd ddweud, nid yw hynny ond yn sôn am yr hawliau datblygu cynllunio a ganiateir. Pan oeddwn yn sôn am un gweithredwr, roeddwn yn sôn am sbectrwm. Felly, mae yna broblem fawr gyda'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gwerthu sbectrwm. Ac os nad yw'r sbectrwm yn cael ei ddefnyddio gan y person sy'n ei brynu, mae'n gorwedd yno'n gwneud dim. Felly, ni allwn wneud unrhyw beth am y ffaith nad oes gennym wasanaethau pedwaredd genhedlaeth mewn rhai rhannau o Gymru os nad yw'r gweithredwr sy'n berchen ar y sbectrwm yn barod i'w cyflwyno yno. Nid oes gennyf bŵer i wneud hynny, gwaetha'r modd.