Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 20 Mehefin 2018.
A sôn am Abertawe, efallai eich bod yn cofio, ychydig flynyddoedd yn ôl, i'r Cyngor fethu gwneud cais am ail gyfran o arian y Llywodraeth ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn, a digwyddodd hynny yn fuan ar ôl iddynt orfod ad-dalu bron i £1 filiwn i'r Llywodraeth gan nad oeddent wedi gallu dod o hyd i ffordd o'i ddefnyddio i leihau tlodi. Dyma gyngor sydd â hanes o wario arian ar bethau nad ydym, o bosibl, yn eu gwerthfawrogi, ond pam fod ei arweinyddiaeth Lafur bresennol yn ei chael hi mor anodd gwario'r arian a bennwyd ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldebau tlodi?