Cynnal Rhwydweithiau Rhyngwladol

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:10, 20 Mehefin 2018

Rydw i'n cytuno â thrywydd yr hyn mae'r Aelod yn ei godi. Mae yna gyfrifoldeb mwy, o bosib, arnom ni fel Cynulliad ac fel Aelodau unigol yn y lle yma nawr i hyrwyddo cysylltiadau rhyngwladol, boed hynny gydag aelod wladwriaethau neu senedd-dai rhanbarthol o fewn yr Undeb Ewropeaidd fel y bydd hi'n bodoli, a hefyd tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd. Felly, rydw i eisiau ein bod ni'n parhau â'r gyfundrefn o gefnogi Aelodau i wneud y cysylltiadau naill ai unigol hynny neu fel pwyllgorau, neu fel grwpiau o Aelodau, a minnau hefyd fel Llywydd yn mynd ati i gwrdd â chyd-Lywyddion mewn senedd-dai rhanbarthol. Fe ges i'r cyfle'n ddiweddar iawn i ymweld â senedd yn Valencia yn ogystal ag yng Nghatalwnia, ac rydw i'n edrych ymlaen, yn yr wythnosau nesaf yma, at groesawu Llywydd Gwlad y Basg i'r Senedd fan hyn. Felly, mae'r cyfrifoldeb arnom ni'n fwy nawr i fod yn cefnogi ac yn hyrwyddo ein cysylltiadau ni fel Senedd gyda gwledydd a rhanbarthau eraill y byd.