Cynnal Rhwydweithiau Rhyngwladol

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:09, 20 Mehefin 2018

Rwy'n diolch i'r Llywydd am yr ateb yna. Bydd hi'n ymwybodol, wrth gwrs, ei bod wedi bod yn arfer i Aelodau Cynulliad i ddefnyddio'r gallu yma i ymgysylltu ac i gwrdd â chyd-seneddwyr, nid yn unig ym Mrwsel, ond mewn gwledydd sydd yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, ac ychydig o hyblygrwydd o dan gynllun y Gymanwlad hefyd i ymweld â gwledydd mwy pell, er nad yw Malta mor bell â hynny na chwaith Cyprus. Ond yng nghyd-destun y strategaeth newydd, a fydd yna fwy o anogaeth i ddefnyddio'r cysylltiadau yma, gan y bydd, wrth gwrs, y pethau arferol o Aelodau Cynulliad yn gallu dibynnu ar y Llywodraeth yn gwneud cysylltiadau ac, yn ei thro, yn adrodd nôl i fan hyn—efallai bydd mwy o ddyletswydd arnom ni fel Aelodau unigol i gynnal y rhwydweithiau yma oherwydd bod dysgu o arfer da mewn gwledydd eraill yn mynd i barhau, Brexit ai peidio?