Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:17, 20 Mehefin 2018

Rydw i'n meddwl bod hynny'n ateb i'r cwestiwn blaenorol. [Chwerthin.] Mae'n bosib iawn nawr, yn rhinwedd beth mae'r Llywydd newydd ei ddweud, bydd hi ddim yn gallu ateb y cwestiwn yma, ond eto bydd hi'n gallu cyflwyno'r neges i'r ochr Comisiwn, beth bynnag, ar y bwrdd. Roeddwn i'n sylwi, yn ddiweddar iawn, fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ysgrifennu at bob cronfa pensiwn sector gyhoeddus yng Nghymru, yn amlinellu sut i ddatgarboneiddio buddsoddiadau pensiwn, ac rwyf i hefyd yn sylweddoli bod y cronfeydd pensiwn yma, er enghraifft, wedi dod at ei gilydd i gynnig buddsoddiad yn y morlyn llanw ym mae Abertawe, ac yn amlwg yn chwilio am gyfleoedd fel hyn. Dau gwestiwn, felly: a ydy bwrdd pensiwn y Cynulliad yn rhan o'r sector gyhoeddus yng Nghymru—y gyfundrefn yna? Ac, yn ail, a ydy'r bwrdd, felly, wedi derbyn y llythyr yma gan y comisiynydd, a pha weithredoedd sy'n cael eu gwneud yn sgil hynny?