Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 20 Mehefin 2018.
Wel, fedraf i ddim ateb y pwynt olaf yna, yn sicr. Nid ydw i yn ymwybodol a ydy'r bwrdd pensiynau wedi derbyn gohebiaeth gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond fe fyddwn i yn ei hannog hi i gysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd pensiynau, oherwydd byddwn i'n gobeithio y byddai'r bwrdd pensiynau eisiau edrych yn ofalus ar y safbwyntiau mae hi wedi eu gwneud ac annog ar y cynlluniau pensiwn cyhoeddus yng Nghymru. Gobeithio, felly, y bydd hi'n cysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd pensiynau.