Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 20 Mehefin 2018.
Rwy'n falch iawn i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, drwy longyfarch yn gyntaf fy nghyfaill Simon Thomas ar ei arweiniad yn y mater hynod bwysig yma. Nid wyf yn gwybod a wyf wedi sôn o'r blaen fy mod yn feddyg o ran galwedigaeth, ond, yn naturiol, mi fyddaf yn dod at y pwnc yma yn nhermau sgileffeithiau iechyd y cyhoedd. Mae'n hanfodol bwysig inni sylweddoli bod llygredd awyr yn effeithio'n ddybryd ar ein hysgyfaint ni i gyd, ond yn benodol, efallai, ar ysgyfaint plant bach, ac mae yna dystiolaeth sydd yn cynyddu ei fod yn effeithio ar ysgyfaint babi sydd heb eto gael ei eni—hynny yw, mae babi cyn cael ei eni yn cael sgileffeithiau ar ei ysgyfaint yn deillio o'r llygredd y mae ei fam yn anadlu i mewn. Gallai hynny greithio eich iechyd chi ar hyd eich oes. Felly, nid oes posib gorbwysleisio pwysigrwydd y pwnc sylfaenol yma.
Ers llawer dydd, roeddem ni'n fodlon, fel cymdeithas, dioddef dŵr nad oedd yn lân. Ni allech argymell unrhyw sefyllfa rŵan lle y byddem ni'n dioddef dŵr yn llawn amhureddau, ond rydym ni'n dioddef awyr sydd yn llawn amhureddau. Mae eisiau newid agwedd, yn syfrdanol a dweud y gwir, achos mae'n rhaid inni symud ymlaen i greu y parthau awyr iach yma, awyr glân, fel mae Simon wedi awgrymu a nifer eraill yn cefnogi. Ers llawer dydd, roeddem ni'n arfer gorfod dioddef y niwl trwchus du yna yn ein dinasoedd mwyaf—y pea soupers, er enghraifft, ym Manceinion a Llundain ac ati—lle'r oedd yr awyr mor ddu nid oeddech chi’n gallu gweld eich dwylo o'ch blaenau chi. Fe gawsom ni ddeddfu wedyn i lanhau'r awyr, ond, wrth gwrs, mae pethau yn llawer mwy subtle y dyddiau yma. Rydym ni'n dal i ddioddef yr amhureddau yna, ond nid ydyw'n achosi'r awyr i fynd yn ddu rhagor, felly rydym ni'n credu, yn arwynebol, fod popeth yn iawn. Nid ydy pethau'n iawn o bell ffordd, ac mae angen deddfu i wneud yn siŵr eu bod nhw'n iawn.