7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ansawdd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:53, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar. Mae wedi cyffwrdd ar rywbeth pwysig iawn, nad yw wedi'i wyntyllu, fel y dywedodd yn gwbl briodol—ar wahân i gyfraniad byr gan Dai Lloyd—yn y ddadl hon. Efallai ei fod yn ymwybodol—wel, mae'n ymwybodol, rwy'n gwybod, ond roeddwn am ei gofnodi hefyd—yn ei ardal ei hun, wrth gwrs, fod yna gychwyn i rai o'r atebion i'r broblem ddeublyg hon gydag allyriadau cerbydau ac allyriadau diwydiannol. Mae ganddo'r ymchwil hydrogen ym Maglan. Rwy'n deall bod Tata yn cael gwared ar lawer o hydrogen fel nwy gwastraff ar hyn o bryd—pe baem ond yn gallu dal rhywfaint o hwnnw a'i ddefnyddio. Mae wrth ymyl y rheilffordd—gellid ei ddefnyddio mewn trên hydrogen. Mae'r syniad mor gyffrous pan edrychwch arno yn y ffordd honno. Yn ogystal â monitro'r llygredd yn ei etholaeth, sy'n bwysig i bawb yng Nghymru, mae angen inni adeiladu ar beth o'r dechnoleg sydd ar gael er mwyn cynllunio dyfodol glanach.