Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 20 Mehefin 2018.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Rydym yn cydnabod y cyfraniad aruthrol a wneir i'n cymdeithas gan y sector iechyd a'r sector gofal cymdeithasol, ac rydym am ddangos yr angen am gynlluniau integredig ar gyfer y gweithlu, a chynnig syniadau ar sut i wella recriwtio a hyfforddi staff. Mae pedwar nod allweddol i'r ddadl heddiw, fel y nodir yn ein cynnig. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr eich bod yn ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig i gydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno y bydd gweithlu iach sy'n cael ei gefnogi a'i werthfawrogi yn allweddol er mwyn gyrru'r trawsnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i allu bod yn gynaliadwy yn y dyfodol. Fodd bynnag, pan ofynnwyd i chi, Lywodraeth Cymru, gyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru erbyn Ionawr 2019, roedd hi'n ymddangos eich bod yn gwrthwynebu hynny. Ac unwaith eto, ein pwynt 4: ymddengys eich bod yn cilio rhag y syniad o gefnogi gweithlu'r GIG drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG. Yn sicr, rhaid inni wneud yn siŵr fod gennym y bobl iawn yn y lleoedd iawn er mwyn sicrhau'r trawsnewid sydd ei angen arnom.
Nawr, rwy'n gwybod y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn ei wneud i'n cenedl, ac os oes unrhyw un ohonoch nad yw wedi cael profiad uniongyrchol o'u gofal, rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom wedi gweld anwyliaid yn gwneud defnydd o'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Fodd bynnag, yn rhy aml, nid yw staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ddigon, neu'n teimlo dan bwysau a heb lais mewn amgylchedd sy'n ymwneud mwy â chyllid a gwleidyddiaeth na chleifion a staff. Ac rydym am dalu teyrnged i'r gweithlu hwn, o'r meddyg ymgynghorol sy'n cyflawni'r llawdriniaeth i'r tîm nyrsio, yr holl ffordd at y glanhawyr a'r staff arlwyo sy'n llwyddo i gadw ein GIG yn weithredol.
A'r GIG yn 70 oed eleni, gadewch inni fwrw golwg byr ar beth y mae'r GIG yn ei wneud yng Nghymru yn flynyddol. Y llynedd, roedd GIG Cymru yno pan roddodd dros—wel, yn wir, fe roddaf yr union nifer i chi—pan roddodd 33,729 o famau enedigaeth. Ac yn 2016-17, cefnogwyd dros 8,500 o bobl gan wasanaethau iechyd meddwl. Yn 2017-18, aeth 93,000 o bobl ar gyfartaledd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Dyna 1 filiwn o bobl y flwyddyn a gefnogir gan ein GIG, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod y ffigur yn cadarnhau gwerth y GIG i bobl Cymru. Fodd bynnag, nid yw'n golygu bod gweithrediad y GIG y tu hwnt i wella neu i her, ac Ysgrifennydd y Cabinet, fe fuoch yn gyflym iawn yn y gorffennol i wfftio ein sylwadau ar yr ochr hon i'r Siambr gan ddweud ein bod yn iselhau'r GIG ac yn bychanu'r ymdrechion a wnaed gan y staff. Ni allech fod ymhellach o'r gwir. Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi'r GIG. Pan ddaw hi i'r pen, mae yno ar eich cyfer.
Gan droi'r cloc yn ôl 70 mlynedd, ni fyddai Henry Willink, Nye Bevan a phenseiri eraill y gwasanaeth iechyd gwladol byth wedi rhagweld y rôl y mae'n ei chwarae heddiw, ac mae'n werth pwysleisio faint bynnag o arian a werir ar gynnal a chadw peiriannau, uwchraddio cyfarpar, darparu adeiladau newydd sbon, y nodwedd sy'n gyffredin drwy'r cyfan o hyd yw'r aelodau o staff. Mae angen staff i weithio'r peiriannau, darllen y pelydrau-x, gofalu am bobl sâl, glanhau'r lloriau. Hebddynt, byddai'r GIG yn dod i ben, a dyna pam y mae mor bwysig inni sicrhau bod lles ac iechyd ein staff GIG yn cael blaenoriaeth go iawn. Yn ôl y set ddiweddaraf o ffigurau'n ymwneud ag absenoldeb salwch y GIG ar gyfer y chwarter hyd at Ragfyr 2017, gwelwyd cynnydd o 5.5 y cant yn nifer yr absenoldebau cenedlaethol. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder i mi, fodd bynnag, yw'r modd y mae'r ffigurau yn gwahaniaethu i'r fath raddau rhwng grwpiau o staff. Felly, er enghraifft, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cofnodi cyfradd salwch sydd ymhell uwchlaw'r cyfartaledd.
Y llynedd, tynnais sylw at y graddau y mae salwch meddwl yn effeithio ar staff y GIG. Dangosodd y ffigurau ar y pryd fod yn agos at 8,000 o aelodau o staff wedi cael bron 350,000 diwrnod o absenoldeb oherwydd gorbryder, straen ac iselder, ac roedd hyn yn cyfateb i bron 948 o flynyddoedd—ffigur anhygoel—a gollwyd i salwch meddwl dros gyfnod o un flwyddyn. Dangosodd ffigurau arolwg gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol y llynedd fod pwysau difrifol ar y gweithlu yn golygu bod lles llawer o feddygon teulu yn dioddef. Mae bron un o bob tri meddyg teulu yng Nghymru dan gymaint o bwysau fel eu bod yn teimlo na allant ymdopi o leiaf unwaith yr wythnos. A chanfu canlyniadau arolwg arall gan Mind Cymru fod 35 y cant o feddygon teulu wedi cael profiad personol o broblem iechyd meddwl, a dywedodd 12 y cant eu bod yn defnyddio, neu wedi defnyddio, gwasanaethau iechyd meddwl ar sail gyson.